- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
9.—(1) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru—
(a)bod diffyg cytundeb rhwng personau sydd â hawl i ymddangos ynghylch mater sy’n berthnasol i’r ymchwiliad;
(b)y byddai’r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn fwy effeithlon ac yn fwy hwylus pe baent yn gallu dod i gytundeb mewn perthynas â’r mater hwnnw, neu y gellid diffinio a chyfyngu unrhyw anghytundeb mewn perthynas ag ef; ac
(c)y gellir cyflawni’r canlyniad hwnnw drwy gyfryngu,
yna cânt ar unrhyw adeg benodi cyfryngwr at y diben hwnnw.
(2) Rhaid i gyfryngwr fod yn berson yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod wedi ei hyfforddi mewn technegau cyfryngu gan sefydliad cyfryngu annibynnol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi cyfryngwr, cânt ei gwneud yn ofynnol yn ysgrifenedig i’r ceisydd gyhoeddi drwy hysbyseb leol ac o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddynt hysbysiad sy’n datgan enw’r person a benodir felly, a’r mater y mae’r person hwnnw i gyfryngu mewn perthynas ag ef.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r ceisydd gydymffurfio â’r paragraff hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw ar wefan.
(5) Rhaid i’r cyfryngwr bennu’r weithdrefn gyfryngu.
(6) O fewn saith niwrnod ar ôl i’r cyfryngu ddod i ben, rhaid i’r cyfryngwr gyflwyno adroddiad i’r arolygydd yn disgrifio’r weithdrefn gyfryngu a chanlyniad y weithdrefn honno, a rhaid i’r arolygydd, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei gael, anfon yr adroddiad at y personau sydd â hawl i ymddangos.
(7) Rhaid i’r arolygydd ganiatáu i unrhyw berson sydd â hawl i ymddangos annerch yr arolygydd ynghylch yr adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6), ond nid yw’r cyfryngwr i roi tystiolaeth gerbron yr ymchwiliad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: