2019 Rhif 344 (Cy. 82)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 9(4) a (4A)1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19892 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy3, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: