NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 (Gorchymyn 2009) er mwyn rhoi effaith i’r newidiadau i bwyntiau colofn gyflog y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion llywodraeth leol a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol.

Roedd Gorchymyn 2009 yn cysylltu uchafswm y tâl ar gyfer cynorthwywyr gwleidyddol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru â phwynt 44 ar golofn gyflog y graddfeydd cyflog a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol. Mae’r Cyd-gyngor Cenedlaethol wedi cyhoeddi graddfeydd cyflog newydd sy’n uno pwyntiau penodol ar y golofn, a bydd hynny’n cael effaith o 1 Ebrill 2019. Effaith hynny yw bod pwynt 44 yn dod yn bwynt 38 o 1 Ebrill 2019 ymlaen. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2009 er mwyn adlewyrchu’r newid i’r golofn gyflog ac nid yw’n diwygio’r uchafswm tâl fel y’i cyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o bryd i’w gilydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.