Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

  • Latest available (Revised) - English
  • Latest available (Revised) - Welsh
  • Original (As made) - English
  • Original (As made) - Welsh
 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2—

(a)yn y diffiniad o “deunyddiau sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 15 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder

(i)yn achos deunyddiau a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 9(1) a (2);

(iii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 15 o Gyfarwyddeb 15 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;;

(b)yn y diffiniad o “deunyddiau CAC”, ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith Atodlen 1;

(iii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 23 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;;

(c)yn y diffiniad o “deunyddiau ardystiedig” ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 9(1) a (2);

(iii)yn achos deunyddiau a phlanhigion a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 20 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;;

(d)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” (“Crown Dependency”) yw Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel;;

(e)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y rheoliadau marchnata ffrwythau” (“the fruit marketing regulations”) yw—

(a)

o ran Lloegr, Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017(1);

(b)

o ran yr Alban, Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017(2);

(c)

o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017(3)

ac ystyr “y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol” (“the relevant fruit marketing regulations”), mewn perthynas ag unrhyw ran gyfansoddol o’r Deyrnas Unedig, yw’r rheoliadau marchnata ffrwythau sy’n gymwys mewn perthynas â’r rhan honno;

(f)yn y diffiniad o “label swyddogol” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/96/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau planhigion a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith Rhan 1 o Atodlen 2;

(iii)yn achos deunyddiau planhigion a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/96/EU;;

(g)yn y diffiniad o “y tu allan i Gymru”, yn lle’r geiriau o “neu unrhyw Aelod-wladwriaeth” hyd at y diwedd, rhodder “, unrhyw Aelod-wladwriaeth neu unrhyw Diriogaeth Ddibynnol y Goron”;

(h)yn y diffiniad o “hawliau amrywogaeth planhigion”—

(i)ym mharagraff (a), ar y diwedd mewnosoder “neu”;

(ii)hepgorer paragraff (b).

(i)yn y diffiniad o “deunyddiau cyn-sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle “Erthyglau 3 neu 4 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;” rhodder—

(i)yn achos deunyddiau a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau marchnata ffrwythau perthnasol;

(ii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 9(1) a (2);

(iii)yn achos deunyddiau a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth, Erthyglau 3 neu 4 o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;.

(3Yn rheoliad 4(3), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.

(4Ar ôl rheoliad 5(4) mewnosoder—

(5) Ni chaiff unrhyw berson farchnata yng Nghymru ddeunyddiau planhigion a gynhyrchwyd mewn Aelod-wladwriaeth.

(6) Nid yw paragraff (5) yn gymwys i ddeunyddiau planhigion sy’n bodloni’r amodau a nodir ym mharagraff (7).

(7) Yr amodau yw bod y deunyddiau planhigion—

(a)o amrywogaeth y caniateir ei marchnata o dan reoliad 7 neu sydd wedi ei chofrestru fel amrywogaeth gan yr awdurdod perthnasol mewn Aelod-wladwriaeth yn unol ag Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2014/97/EU;

(b)wedi eu cynhyrchu gan gydymffurfio â’r gofynion a nodir yng Nghyfarwyddebau 2008/90/EC, 2014/98/EU a 2014/96/EU; ac

(c)wedi eu mewnforio i Gymru cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd..

(5Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o “ag ail baragraff” hyd at y diwedd rhodder “â’r paragraff hwnnw”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)cofrestru fel amrywogaeth gan yr awdurdod cyfrifol mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig y tu allan i Gymru yn unol ag—

(i)o ran Lloegr, Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017;

(ii)o ran yr Alban, Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017;

(iii)o ran Gogledd Iwerddon, Atodlen 3 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017..

(6Yn rheoliad 10(6), yn lle “Chyfarwyddeb 2000/29/EC” rhodder “Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018”.

(7Yn rheoliad 15(1)(g)(iii), yn lle “yn yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 2000/29/EC” rhodder “yng Ngorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018”.

(8Ar ôl rheoliad 28 mewnosoder—

Darpariaeth drosiannol ar gyfer labeli swyddogol ar y dyddiad ymadael

28A.  At ddibenion rheoliad 10 a pharagraff 4(b) o Atodlen 2, caniateir defnyddio label swyddogol sydd wedi ei ragargraffu cyn y diwrnod ymadael sy’n cynnwys y datganiad “EU Rules and Standards” fel label swyddogol ar gyfer deunyddiau planhigion cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.

(9Yn Atodlen 2—

(a)Ym mharagraff 4(b), yn lle “EU” rhodder “UK”;

(b)ym mharagraff 5, yn lle “gael eu hargraffu’n” hyd at y diwedd rhodder—

(a)bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen, a

(b)cael eu hargraffu’n annileadwy yn Saesneg (ond caniateir eu hargraffu mewn ieithoedd eraill yn ogystal);

(c)ym mharagraff 8—

(i)yn is-baragraff (a), yn lle “EU” rhodder “UK”;

(ii)yn is-baragraffau (b)(i) ac (x), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;

(d)ym mharagraff 9, yn lle “gael eu hargraffu’n” hyd at y diwedd rhodder—

(a)bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen, a

(b)cael eu hargraffu’n annileadwy yn Saesneg (ond caniateir eu hargraffu mewn ieithoedd eraill yn ogystal).

(10Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau 11 i 16.

(11Ym mharagraff 1—

(a)yn y diffiniad o “protocol priodol”—

(i)hepgorer paragraff (a);

(ii)ym mharagraff (b)—

(aa)hepgorer y geiriau o “pan na fo” hyd at “berthnasol, ”;

(bb)ar ôl y gair “sefydlogrwydd” mewnosoder “ar gyfer y genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw”;

(iii)ym mharagraff (c)—

(aa)hepgorer “protocolau a grybwyllir ym mharagraff (a) na’r”;

(bb)ar ôl y gair “sefydlir” mewnosoder “neu a gydnabyddir”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “y Rheoliadau GMO” (“the GMO Regulations”) yw—

(a)o ran Cymru, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(4);

(b)o ran Lloegr, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002(5);

(c)o ran yr Alban, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Yr Alban) 2002(6);

(d)o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Gogledd Iwerddon) 2003(7);".

(12Ym mharagraff 2—

(a)yn is-baragraff (2)(b), hepgorer “neu mewn Aelod-wladwriaeth arall, ”;

(b)yn is-baragraff (3), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “gwlad arall sy’n aelod o UPOV”.

(13Ym mharagraff 3—

(a)yn is-baragraff (1)(c), yn lle’r geiriau o “wedi ei awdurdodi” hyd at y diwedd rhodder—

(i)wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 neu’r Rheoliadau GMO, neu

(ii)cyn y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC.;

(b)yn is-baragraff (3), yn lle “y tu allan i Gymru” rhodder “mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn gwlad arall sy’n aelod o UPOV”.

(14Ym mharagraff 6(1)—

(a)ym mharagraff (c), yn lle “neu mewn Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “neu”;

(b)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)gan awdurdod cymwys y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y treialon tyfu hynny o safon sy’n cyfateb i’r rhai a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan..

(15Ym mharagraff 7—

(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle’r geiriau o “sy’n ffurfio’r amrywogaeth” hyd at y diwedd rhodder—

sy’n ffurfio’r amrywogaeth—

(i)wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003(8) neu’r Rheoliadau GMO, neu

(ii)wedi ei awdurdodi, cyn y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC; neu;

(b)yn is-baragraff (4)(a), yn lle “Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad” rhodder “Rheoliad”.

(16Ym mharagraff 8(1)(d), yn lle’r geiriau o “yn peidio â” hyd at y diwedd rhodder—

(i)yn peidio â bod yn awdurdodedig yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 neu’r Rheoliadau GMO; neu

(ii)wedi ei awdurdodi, cyn y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC a’i fod yn peidio â bod yn awdurdodedig.

(17Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraff 5—

(i)yn is-baragraff (4), yn lle “y tu allan i Gymru” rhodder “mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru neu mewn gwlad arall sy’n aelod o UPOV”;

(ii)yn is-baragraff (7), yn lle’r diffiniad o “cofrestr amrywogaethau” rhodder—

ystyr “cofrestr amrywogaethau” (“register of varieties”), mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau, yw’r gofrestr a gynhelir—

(a)

yng Nghymru, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 4;

(b)

yn Lloegr, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017;

(c)

yn yr Alban, o dan baragraff 2(1) o Atodlen 4 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017;

(d)

yng Ngogledd Iwerddon, at ddibenion paragraff 1 o Atodlen 3 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017;;

(b)hepgorer paragraff 8(2)(a).

(c)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources