2019 Rhif 370 (Cy. 91)
Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Cynulliad ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
3
Mae i ddiwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yr un cymhwysiad â’r deddfiad sy’n cael ei ddiwygio.
Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 20062
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 20062, yn y diffiniad o “cwch pysgota trwyddedig”, hepgorer “gan Aelod-Wladwriaeth arall neu”.
Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 20113
1
Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 20113 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Ar ôl erthygl 3, mewnosoder—
3AAddasu’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff
1
At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff i’w darllen yn unol â’r erthygl hon.
2
Mae cyfeiriad at un Aelod-wladwriaeth neu ragor mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi neu iddynt, i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr awdurdod priodol neu’r awdurdod lleol a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfedd y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu a oedd yn gallu arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.
3
Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—
a
ym mharagraff 2—
i
yn y geiriau yn union cyn pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;
ii
ym mhwyntiau (b) ac (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;
iii
ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC4” hyd at y diwedd;
b
ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation” wedi eu hepgor;
c
paragraff 4 wedi ei hepgor.
4
Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai paragraff 2 wedi ei hepgor.
5
Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—
a
paragraffau 1 i 3 wedi eu hepgor;
b
ym mharagraff 4—
i
yn y frawddeg gyntaf, “Except where waste ceases to be waste in accordance with Council Regulation (EU) No 333/2011, Commission Regulation (EU) No 1179/2012 or Commission Regulation (EU) No 715/2013” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Where criteria” hyd at “paragraphs 1 and 2”;
ii
yr ail frawddeg wedi ei hepgor.
6
Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—
a
ym mharagraff 1—
i
y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;
ii
yn y drydedd frawddeg, “shall, subject to paragraph 1A, be binding” wedi ei roi yn lle “shall be binding”;
b
ar ôl paragraff 1, y canlynol wedi ei fewnosod—
1A
Paragraph 1 is subject to—
a
a determination by the Welsh Ministers under regulation 8(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 20055 that a specific batch of waste is to be treated as hazardous waste;
b
a decision made by the Welsh Ministers under regulation 9(1) of the Hazardous Waste (England and Wales) Regulations 20056 that a specific batch of waste is to be treated as non-hazardous waste;
c
the treating of a specific batch of waste as hazardous or, as the case may be, non-hazardous, in accordance with regulation 8(2) or 9(2) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005;
d
regulations (if any) made by the Welsh Ministers under section 62A(2) of the Environmental Protection Act 19907 (lists of waste displaying hazardous properties).
c
paragraffau 2, 3 a 5 wedi eu hepgor;
d
ar ôl paragraff 6, y canlynol wedi ei fewnosod—
6A
In this Article, the “list of waste” means the list established by Commission Decision 2000/532/EC.
e
paragraff 7 wedi ei hepgor.
7
Mae Erthygl 23 i’w darllen fel pe bai—
a
cyfeiriad at y “competent authority” yn gyfeiriad at yr “appropriate authority”;
b
ym mharagraff 5, “or Community” wedi ei hepgor.
8
Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.
9
Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol â’r erthygl hon—
a
ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;
b
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
3BYstyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”
1
Wrth ddarllen Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol ag erthygl 3A, ystyr y cyfeiriad at “the Mining Waste Directive” (fel y’i mewnosodir gan erthygl 3A(3)(a)(iii)) yw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol, y’i darllenir yn unol â pharagraffau (2) i (4).
2
Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—
a
ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC8 yn gyfeiriad at yr Erthygl honno, y’i darllenir yn unol â pharagraff (4) o’r erthygl hon;
b
paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.
3
Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.
4
Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio yn unol â’r erthygl hon, mae i’r cyfeiriad at y “Waste Framework Directive” (fel y’i mewnosodir gan baragraff (3)) yr ystyr a roddir gan erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn, y’i darllenir yn unol ag erthygl 3A.
5
At ddibenion paragraff (2), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—
a
y cyfeiriadau at “Member States” yn gyfeiriadau at “Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”;
b
ar y diwedd, y canlynol wedi ei fewnosod—
and “environmental objective”, in relation to a river basin district (within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017)9, has the same meaning as in those Regulations.
3
Yn erthygl 33(2)—
a
yn is-baragraff (a), yn lle “(ac eithrio Gibraltar) nad yw’n Aelod-wladwriaeth; a” rhodder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”;
b
hepgorer is-baragraff (b).
Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 20164
1
Mae Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 201610 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2—
a
ym mharagraff (1)—
i
yn y diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd”, ar y diwedd, mewnosoder “(gweler paragraff 3)”;
ii
yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, hepgorer “, ac mae’n cynnwys unrhyw swyddog y Comisiwn a benodwyd yn briodol ac sy’n mynd gyda’r person awdurdodedig hwnnw”;
iii
hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn”;
iv
hepgorer y diffiniad o “cymorth yr UE”;
v
yn y diffiniad o “gweithrediad”, ym mharagraff (b), yn lle “cymorth yr UE” rhodder “cymorth yn unol â Rheoliad 508/2014”.
b
ar ôl paragraff (2), mewnosoder—
3
Er mwyn osgoi amheuaeth, mae “gweithrediad a gymeradwywyd” yn cynnwys gweithrediad a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4 cyn y diwrnod ymadael.
3
Yn rheoliad 8(2)(d), yn lle “cymorth yr UE” rhodder “cymorth yn unol â Rheoliad 508/2014”.
4
Yn rheoliad 11—
a
hepgorer paragraff (1)(j)(i);
b
hepgorer paragraff (3).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)