Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
28 Ionawr 2019
Gwnaed
25 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Chwefror 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Ym mharagraff (2), ystyr “y Gyfarwyddeb” yw Cyfarwyddeb 2003/99/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fonitro milheintiau a chyfryngau milheintiol(3).”
(3) Hepgorer rheoliad 3.
(4) Yn rheoliad 5—
(a)ar ddiwedd paragraff (d), mewnosoder “ac”;
(b)hepgorer paragraff (e) a’r “ac” o’i flaen.
3.—(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “statws rhydd rhag twbercwlosis”.
(3) Yn erthygl 11(3), yn lle “pa un a oes gan y fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw statws rhydd rhag twbercwlosis neu beidio” rhodder “pa un a yw’r fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw yn fuches dan gyfyngiadau ai peidio”.
(4) Yn erthygl 12(3A)(d), yn lle “bod y fuches odro wedi colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “ei bod yn fuches dan gyfyngiadau”.
(5) Yn erthygl 14(4), yn lle “yn colli neu’n adennill ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “yn dod neu’n peidio â bod yn fuches dan gyfyngiadau”.
(6) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8, yn lle is-baragraff (c) rhodder—
“(c)buches sydd wedi bod yn fuches dan gyfyngiadau ar unrhyw adeg yn ystod y 18 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y symud; neu”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, mewn perthynas â monitro a rheoli afiechydon milheintiol yn gyffredinol, ac mewn perthynas â thwbercwlosis yn benodol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2007/2459 (Cy. 207), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.J. Rhif L 325, 12.12.2003, t. 31, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor (EU) 2013/20/EU (O.J. Rhif L 158, 10.06.2013, t. 234).
O.S. 2010/1379 (Cy. 122), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/692 (Cy. 104), 2014/632 (Cy. 72), 2015/1773 (Cy. 245), 2016/328 (Cy. 104), 2017/711 (Cy. 168).