2019 Rhif 372 (Cy. 93)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu a Rheoli Afiechydon Milheintiol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 20072

1

Mae Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 20072 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2—

a

ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;

b

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

3

Ym mharagraff (2), ystyr “y Gyfarwyddeb” yw Cyfarwyddeb 2003/99/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fonitro milheintiau a chyfryngau milheintiol3.

3

Hepgorer rheoliad 3.

4

Yn rheoliad 5—

a

ar ddiwedd paragraff (d), mewnosoder “ac”;

b

hepgorer paragraff (e) a’r “ac” o’i flaen.

Diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 20103

1

Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 20104 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “statws rhydd rhag twbercwlosis”.

3

Yn erthygl 11(3), yn lle “pa un a oes gan y fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw statws rhydd rhag twbercwlosis neu beidio” rhodder “pa un a yw’r fuches sy’n cynnwys yr anifail hwnnw yn fuches dan gyfyngiadau ai peidio”.

4

Yn erthygl 12(3A)(d), yn lle “bod y fuches odro wedi colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “ei bod yn fuches dan gyfyngiadau”.

5

Yn erthygl 14(4), yn lle “yn colli neu’n adennill ei statws rhydd rhag twbercwlosis” rhodder “yn dod neu’n peidio â bod yn fuches dan gyfyngiadau”.

6

Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8, yn lle is-baragraff (c) rhodder—

c

buches sydd wedi bod yn fuches dan gyfyngiadau ar unrhyw adeg yn ystod y 18 mis sy’n dod i ben ar ddyddiad y symud; neu

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio is-ddeddfwriaeth sy’n gymwys o ran Cymru, mewn perthynas â monitro a rheoli afiechydon milheintiol yn gyffredinol, ac mewn perthynas â thwbercwlosis yn benodol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.