xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2019 Rhif 379 (Cy. 94)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

18 Chwefror 2019

Gwnaed

26 Chwefror 2019

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Chwefror 2019

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng organebau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, eu gosod ar y farchnad a’u symud ar draws ffin.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)mewn perthynas â Rhan 1, y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (b) ac (c);

(b)mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

(c)mewn perthynas â Rhan 3, paragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(a) o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(3).

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi eu bodloni.

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.

(2Daw Rhannau 1 a 2 o’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y gosodir y Rheoliadau hyn.

(3Daw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Diwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio

Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

2.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16, hepgorer paragraff (dd).

(3Hepgorer rheoliadau 18 a 18A.

(4Yn Atodlen 3, paragraff 1, yn lle’r geiriau “ac unrhyw ddull adnabod, enw neu god penodol” rhodder “y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall”.

RHAN 3Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth mewn perthynas ag ymadael â’r Undeb Ewropeaidd

Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

3.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) rhodder—

ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—

(a)

caniatâd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o’r Ddeddf, neu

(b)

awdurdodiad o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;;

(b)hepgorer y diffiniad “y Comisiwn” (“the Commission”);

(c)hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”);

(d)yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) rhodder—

ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC ar ollwng yn fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig(5) fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael;;

(e)yn y diffiniad o “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi’i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“the First Simplified Procedure (crop plants) Decision”), mewnosoder ar y diwedd “fel y mae’n gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”;

(f)yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” (“pre-exit approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd, yn union cyn y diwrnod ymadael, iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) neu (4) o Gyfarwyddeb 1990;.

(3Yn rheoliad 10, hepgorer y geiriau o “gollwng yn unol” hyd at “neu lle mae”.

(4Yn rheoliad 12(1)(ch)—

(a)hepgorer y geiriau o “ar y ffurf” hyd at “Bwriadol”;

(b)ar y diwedd, mewnosoder “, ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC”.

(5Yn rheoliad 16—

(a)mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);

(b)yn y paragraff (1) newydd, ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)lle mae cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael yn cael ei farchnata yn ystod y cyfnod perthnasol at ddefnydd y mae wedi’i gymeradwyo ar ei gyfer cyn y diwrnod ymadael ac yn unol â’r cyfyngiadau a’r amodau yr oedd defnydd o’r cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt cyn y diwrnod ymadael;;

(c)yn lle is-baragraffau (b) a (c), rhodder—

(b)lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi’u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014(6);;

(d)yn is-baragraff (ch) ar y diwedd mewnosoder “neu”;

(e)yn lle is-baragraff (d), rhodder—

(d)lle mae organedd a addaswyd yn enetig a gynhwysir mewn cynnyrch meddygol a awdurdodir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(7) neu Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013(8) yn cael ei farchnata.;

(f)hepgorer is-baragraff (e);

(g)ar ôl y paragraff (1) newydd mewnosoder—

(2) At ddibenion paragraff (1)(aa), ystyr “y cyfnod perthnasol” mewn perthynas â chynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael, yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r caniatâd o dan sylw yn peidio â bod yn ddilys.

(6Yn rheoliad 17(2)—

(a)yn is-baragraff (b)—

(i)yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;

(ii)hepgorer y geiriau o “neu i awdurdod cymwys arall” hyd at y diwedd;

(b)yn is-baragraff (e), ar ôl “Bwriadol” mewnosoder “, fel y’i darllenir gyda’r nodiadau cyfarwyddyd a nodir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2002/811/EC,”;

(c)yn is-baragraff (g) yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd gan y Comisiwn” hyd at y diwedd, rhodder “a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/812/EC”.

(7Yn rheoliad 21—

(a)hepgorer is-baragraff (c);

(b)yn is-baragraff (dd) hepgorer y geiriau o “ac unrhyw sylwadau a wnaed” hyd at y diwedd.

(8Yn rheoliad 22—

(a)ym mharagraff (3) hepgorer “a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i’r Comisiwn”;

(b)yn lle paragraff (6) rhodder—

(6) Rhaid i’r wybodaeth a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) gael ei darparu ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC..

(9Yn rheoliad 24—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)gwahodd unrhyw berson, drwy gyfrwng cais a osodir ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw risgiau o beri niwed i’r amgylchedd drwy’r marchnata, cyn diwedd cyfnod sydd i’w bennu nad yw’n llai na 60 diwrnod o’r dyddiad y daeth y cais i law Gweinidogion Cymru;;

(ii)yn lle is-baragraff (d), rhodder—

(d)ystyried unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r risgiau o beri niwed i’r amgylchedd drwy’r marchnata, a wnaed i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod a bennir yn unol â pharagraff (b);;

(b)hepgorer paragraff (2);

(c)ym mharagraff (3), yn lle “mharagraffau (1) a (2)” rhodder “mharagraff (1)”;

(d)hepgorer paragraff (4).

(10Yn rheoliad 25—

(a)yn lle paragraffau (1) i (4) rhodder—

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig, neu ei wrthod, cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliad 24(1)(b) a (d) uchod ac, os ceir unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 24(1)(d) o fewn y cyfnod hwnnw, cyn bod Gweinidogion Cymru wedi ystyried y sylwadau hynny.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y cais i law a rhaid iddynt gynnwys, pan roddir gwybod am unrhyw wrthodiad i roi caniatâd, y rheswm dros y gwrthodiad hwnnw.

(4) Nid yw’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yn cynnwys—

(a)unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf bod rhagor o wybodaeth yn ofynnol mewn cysylltiad â’r cais, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r wybodaeth honno yn dod i law Gweinidogion Cymru, neu

(b)unrhyw gyfnod pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 24(1)(b), ar yr amod nad yw ystyriaeth o’r fath yn estyn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (3) am fwy na 30 o ddiwrnodau.;

(b)ym mharagraff (5)—

(i)hepgorer “o dan ddarpariaethau perthnasol yr UE”;

(ii)yn lle’r geiriau o “gatalog cenedlaethol swyddogol” hyd at y diwedd, rhodder “Restr Genedlaethol yn unol â rheoliad (3) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(9)”;

(c)ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “gofrestr genedlaethol swyddogol” hyd at y diwedd rhodder “y Gofrestr Genedlaethol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002(10)”.

(11Yn rheoliad 26 hepgorer paragraffau (1)(ch) a (2).

(12Yn rheoliad 27—

(a)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais i adnewyddu caniatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn gynted â phosibl a rhaid iddynt gynnwys, mewn unrhyw wrthodiad i roi caniatâd, y rheswm dros y penderfyniad hwnnw..

(13Yn rheoliad 29(dd) yn lle’r geiriau o “i’r Comisiwn” hyd at “Aelod-wladwriaethau” rhodder “ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC”.

(14Yn lle rheoliad 32 rhodder—

32    Amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf onid ydynt wedi cael cytundeb deiliad y caniatâd pan fo gwybodaeth newydd wedi dod ar gael y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n effeithio ar yr asesiad o’r risg o beri niwed i’r amgylchedd drwy ollwng yr organeddau.

(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu amrywio caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch..

(15Yn rheoliad 33—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “cynnyrch a gymeradwywyd” rhodder “marchnata cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael”;

(b)hepgorer paragraffau (3) i (5).

(16Yn rheoliad 35—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn is-baragraff (f), ar ôl “ollwng” mewnosoder “, neu farchnata,”;

(ii)ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—

(ff)y crynodeb o’r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) neu, yn ôl y digwydd, o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 17(2)(g).;

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i’r ffaith nad yw’r wybodaeth o dan sylw yn gyfrinachol, mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—

(a)enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y marchnata, boed y gweithgynhyrchydd, y mewnforiwr neu’r dosbarthwr;

(b)enw masnachol arfaethedig y cynnyrch;

(c)enwau’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch, gan gynnwys enwau gwyddonol a chyffredin, pan fo hynny’n briodol, yr organeddau rhieniol, yr organeddau derbyn a’r organeddau rhoi;

(ch)marciau adnabod unigryw yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch;

(d)cod cyfeirnod ar gyfer y cais a neilltuwyd gan Weinidogion Cymru;

(dd)yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais fel a bennir ym mharagraffau 3 a 7 o Atodlen 3;

(e)gwybodaeth am samplau o’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd wedi eu storio, gan gynnwys y math o ddeunydd, ei nodweddion genetig a’i sefydlogrwydd, swm y deunydd mewn storfa a’r amodau storio priodol a’r oed silff.;

(c)ym mharagraff (7), ar ôl “roddwyd” mewnosoder “cyn y diwrnod ymadael”;

(d)ym mharagraff (9) yn lle “gan y Comisiwn” rhodder “cyn y diwrnod ymadael gan y Comisiwn Ewropeaidd”.

(17Yn rheoliad 36 hepgorer paragraffau (8) a (10).

(18Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff (2) hepgorer “yn yr Undeb Ewropeaidd”;

(b)ym mharagraff 5, hepgorer “o fewn yr Undeb Ewropeaidd”;

(c)ym mharagraff 7, yn y frawddeg gyntaf hepgorer y geiriau o “at ddibenion” hyd at “addasiadau mewn organeddau,”;

(d)ym mharagraff 8, hepgorer “sydd wedi’i sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd”;

(e)ym mharagraff 14, yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.

(19Yn Atodlen 4 ym mharagraff 6, hepgorer y geiriau o “, ac a fwriedir gofyn” hyd at y diwedd.

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005

4.—(1Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn yr Atodlen—

(a)yn Rhan 1, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 10(3)”, yn lle’r geiriau o “heb fod cytundeb” hyd at y diwedd rhodder “na chaniateir eu marchnata yn y Deyrnas Unedig, neu heb i awdurdod cymwys y wlad sy’n mewnforio gytuno’n benodol i awdurdodi’r mewnforio.”;

(b)yn Rhan 2, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 6”, yn yr ail is-baragraff, hepgorer “ac i’r Comisiwn”.

Lesley Griffiths

Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2019

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i, Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng organebau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, eu gosod ar y farchnad a’u symud ar draws ffin.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn, sy’n cael effaith cyn y diwrnod ymadael, yn cywiro cyfeiriadau penodol mewn is-ddeddfwriaeth Gymreig nad ydynt yn gyfredol bellach, gan ddibynnu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol i is-ddeddfwriaeth Gymreig er mwyn cywiro unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd paragraffau 28(1) a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae O.S. 2003/2901 yn cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(5)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2018/350 (OJ Rhif L 67, 9.3.2018, t. 30).

(8)

O.S. 2013/2033, a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/599, 2018/761.

(9)

O.S. 2001/3510, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/2949, 2011/464, 2018/942: mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(10)

O.S. 2002/3026, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.