RHAN 2Diwygio cyfeiriadau sydd wedi dyddio
Diwygiadau i Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 20022
1
Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 20024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 16, hepgorer paragraff (dd).
3
Hepgorer rheoliadau 18 a 18A.
4
Yn Atodlen 3, paragraff 1, yn lle’r geiriau “ac unrhyw ddull adnabod, enw neu god penodol” rhodder “y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall”.