Search Legislation

Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygio Rheoliadau 2010

2.—(1Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, hepgorer paragraff (2).

(3Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—

Dehongli

2A.(1) Wrth ddehongli Cyfarwyddeb 2008/50/EC at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae Erthygl 3(f) i’w darllen fel pe bai “Member States” wedi ei roi yn lle “other Member States”;

(b)yn Atodiad 1—

(i)yn adran A, mae troednodyn (1) i’w ddarllen fel pe bai—

(aa)“the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)y geiriau “to the Commission” wedi eu hepgor;

(ii)mae adran C i’w darllen fel pe bai—

(aa)“designated” wedi ei roi yn lle “harmonised” ym mhob lle y mae’r gair hwnnw digwydd;

(bb)ym mhwynt (i), y mae’r geiriau “pursuant to Article 6 and 9” wedi eu hepgor;

(cc)ym mhwynt (iii), y mae’r geiriau o “and that institutions” hyd at y diwedd wedi eu hepgor;

(dd)ym mhwynt (iv), yn y frawddeg gyntaf, y mae’r geiriau o “by the appropriate” hyd at “Article 3” wedi eu hepgor;

(ee)ym mhwynt (iv), yn y frawddeg gyntaf, y mae’r geiriau o “the reference to” hyd at “the European Union” wedi eu hepgor;

(ff)ym mhwynt (iv), yn yr ail frawddeg, y mae’r geiriau o “for the coordination” hyd at “be responsible” wedi eu hepgor;

(gg)pwyntiau (v) a (vi) wedi eu hepgor;

(hh)ym mharagraff 2, bod “All data” wedi ei roi yn lle “All reported data under Article 27”;

(c)yn Atodiad 2, yn adran B, mae’r ail is-baragraff i’w ddarllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(d)yn Atodiad 3, yn adran A, mae paragraff (2)(b) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “in accordance with Article 2(1)” wedi eu hepgor;

(e)yn Atodiad 5, yn adran A, mae troednodiadau (1) a (2) i’r tabl i’w darllen fel pe bai “the United Kingdom” wedi ei roi yn lle “a Member State” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd;

(f)yn Atodiad 6, mae adran B i’w darllen fel pe bai—

(i)ym mhwynt 1—

(aa)“The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;

(bb)“they” wedi ei roi yn lle “it”;

(cc)“the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “the Member State concerned”;

(ii)pwyntiau 2, 3 a 4 wedi eu hepgor;

(g)yn Atodiad 8, yn adran A, mae’r paragraff ar ôl y tabl i’w ddarllen fel pe bai “in so far as it forms part of retained EU law” wedi ei fewnosod ar ôl y geiriau “in the Community”.

(2) Wrth ddehongli Cyfarwyddeb 2004/107/EC at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)yn Atodiad 2, yn adran 2, mae’r ail baragraff i’w ddarllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(b)yn Atodiad 3, yn adran 4, mae pwynt (b) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “as defined by Article 2(11) of Directive 96/61/EC” wedi eu hepgor; ac

(c)yn Atodiad 4, mae adran 1 i’w darllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member State” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd;

(d)mae Atodiad 5 i’w ddarllen fel pe bai—

(i)yn adran 1, yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;

(ii)yn adran 2—

(aa)yn y paragraff cyntaf, “the Welsh Ministers may” wedi ei roi yn lle “Member States are allowed to”;

(bb)yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;

(iii)yn adran 3, yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;

(iv)Adran 5 wedi ei hepgor.

(4Yn lle rheoliad 13(4) rhodder —

(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod gwerth terfyn wedi ei groesi am reswm sydd i’w briodoli i ffynonellau naturiol, ni ystyrir bod y gwerth terfyn hwnnw wedi ei groesi at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod gwerth terfyn wedi ei groesi am reswm sydd i’w briodoli i ffynonellau naturiol yn unol â pharagraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth, ar gyfer y parthau a’r crynoadau perthnasol, sy’n dangos y gellir priodoli’r gormodiannau i ffynonellau naturiol.

(5Yn rheoliad 14—

(a)ym mharagraff (5)(b) yn lle “Chyfarwyddeb 2008/1/EC” rhodder “Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(1)”;

(b)ym mharagraff (6), yn lle “ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2001/81/EC” rhodder “â rheoliad 9 o Reoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018(2)”;

(c)hepgorer paragraff (7).

(6Yn rheoliad 15, mae paragraff (2) wedi ei hepgor.

(7Yn rheoliad 20—

(a)ym mharagraff (2), hepgorer “yn unol ag Erthygl 21 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC,”;

(b)yn lle paragraff (7) rhodder—

(7) Pa bryd bynnag y bo’n bosibl, rhaid i gynlluniau ansawdd aer fod yn gyson ag—

(a)y Cynllun Cenedlaethol Trosiannol, y mae iddo’r ystyr a roddir i “Transitional National Plan” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Peiriannau Mewndanio Mawr (Cynllun Cenedlaethol Trosiannol) 2015(3);

(b)rhaglen rheoli llygredd aer genedlaethol a lunnir yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018;

(c)cynllun gweithredu a lunnir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006(4).

(8Yn rheoliad 23(3), ar ôl “y Gymuned Ewropeaidd” mewnosoder “i’r graddau y mae wedi ei throsi i’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru”.

(1)

O.S. 2016/1154, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

O.S. 2015/1973, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources