Diwygio Rheoliadau 20102
1
Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2, hepgorer paragraff (2).
3
Ar ôl rheoliad 2 mewnosoder—
Dehongli2A
1
Wrth ddehongli Cyfarwyddeb 2008/50/EC at ddibenion y Rheoliadau hyn—
a
mae Erthygl 3(f) i’w darllen fel pe bai “Member States” wedi ei roi yn lle “other Member States”;
b
yn Atodiad 1—
i
yn adran A, mae troednodyn (1) i’w ddarllen fel pe bai—
aa
“the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;
bb
y geiriau “to the Commission” wedi eu hepgor;
ii
mae adran C i’w darllen fel pe bai—
aa
“designated” wedi ei roi yn lle “harmonised” ym mhob lle y mae’r gair hwnnw digwydd;
bb
ym mhwynt (i), y mae’r geiriau “pursuant to Article 6 and 9” wedi eu hepgor;
cc
ym mhwynt (iii), y mae’r geiriau o “and that institutions” hyd at y diwedd wedi eu hepgor;
dd
ym mhwynt (iv), yn y frawddeg gyntaf, y mae’r geiriau o “by the appropriate” hyd at “Article 3” wedi eu hepgor;
ee
ym mhwynt (iv), yn y frawddeg gyntaf, y mae’r geiriau o “the reference to” hyd at “the European Union” wedi eu hepgor;
ff
ym mhwynt (iv), yn yr ail frawddeg, y mae’r geiriau o “for the coordination” hyd at “be responsible” wedi eu hepgor;
gg
pwyntiau (v) a (vi) wedi eu hepgor;
hh
ym mharagraff 2, bod “All data” wedi ei roi yn lle “All reported data under Article 27”;
c
yn Atodiad 2, yn adran B, mae’r ail is-baragraff i’w ddarllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;
d
yn Atodiad 3, yn adran A, mae paragraff (2)(b) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “in accordance with Article 2(1)” wedi eu hepgor;
e
yn Atodiad 5, yn adran A, mae troednodiadau (1) a (2) i’r tabl i’w darllen fel pe bai “the United Kingdom” wedi ei roi yn lle “a Member State” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd;
f
yn Atodiad 6, mae adran B i’w darllen fel pe bai—
i
ym mhwynt 1—
aa
“The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;
bb
“they” wedi ei roi yn lle “it”;
cc
“the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “the Member State concerned”;
ii
pwyntiau 2, 3 a 4 wedi eu hepgor;
g
yn Atodiad 8, yn adran A, mae’r paragraff ar ôl y tabl i’w ddarllen fel pe bai “in so far as it forms part of retained EU law” wedi ei fewnosod ar ôl y geiriau “in the Community”.
2
Wrth ddehongli Cyfarwyddeb 2004/107/EC at ddibenion y Rheoliadau hyn—
a
yn Atodiad 2, yn adran 2, mae’r ail baragraff i’w ddarllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member States”;
b
yn Atodiad 3, yn adran 4, mae pwynt (b) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “as defined by Article 2(11) of Directive 96/61/EC” wedi eu hepgor; ac
c
yn Atodiad 4, mae adran 1 i’w darllen fel pe bai “the Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “Member State” ym mhob lle y mae’r geiriau hynny’n digwydd;
d
mae Atodiad 5 i’w ddarllen fel pe bai—
i
yn adran 1, yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;
ii
yn adran 2—
aa
yn y paragraff cyntaf, “the Welsh Ministers may” wedi ei roi yn lle “Member States are allowed to”;
bb
yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;
iii
yn adran 3, yn yr ail baragraff, “The Welsh Ministers” wedi ei roi yn lle “A Member State”;
iv
Adran 5 wedi ei hepgor.
4
Yn lle rheoliad 13(4) rhodder —
4
Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod gwerth terfyn wedi ei groesi am reswm sydd i’w briodoli i ffynonellau naturiol, ni ystyrir bod y gwerth terfyn hwnnw wedi ei groesi at ddibenion y Rheoliadau hyn.
5
Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod gwerth terfyn wedi ei groesi am reswm sydd i’w briodoli i ffynonellau naturiol yn unol â pharagraff (4), rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth, ar gyfer y parthau a’r crynoadau perthnasol, sy’n dangos y gellir priodoli’r gormodiannau i ffynonellau naturiol.
5
Yn rheoliad 14—
a
ym mharagraff (5)(b) yn lle “Chyfarwyddeb 2008/1/EC” rhodder “Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 20163”;
b
ym mharagraff (6), yn lle “ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2001/81/EC” rhodder “â rheoliad 9 o Reoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 20184”;
c
hepgorer paragraff (7).
6
Yn rheoliad 15, mae paragraff (2) wedi ei hepgor.
7
Yn rheoliad 20—
a
ym mharagraff (2), hepgorer “yn unol ag Erthygl 21 o Gyfarwyddeb 2008/50/EC,”;
b
yn lle paragraff (7) rhodder—
7
Pa bryd bynnag y bo’n bosibl, rhaid i gynlluniau ansawdd aer fod yn gyson ag—
a
y Cynllun Cenedlaethol Trosiannol, y mae iddo’r ystyr a roddir i “Transitional National Plan” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Peiriannau Mewndanio Mawr (Cynllun Cenedlaethol Trosiannol) 20155;
b
rhaglen rheoli llygredd aer genedlaethol a lunnir yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018;
c
cynllun gweithredu a lunnir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 20066.
8
Yn rheoliad 23(3), ar ôl “y Gymuned Ewropeaidd” mewnosoder “i’r graddau y mae wedi ei throsi i’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru”.