xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwastraff, Cymru
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
18 Chwefror 2019
Gwnaed
28 Chwefror 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mawrth 2019
Coming into force in accordance with regulation 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru’n gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a)mewn perthynas â Rhan 1, y pwerau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);
(b)mewn perthynas â Rhan 2, adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1);
(c)mewn perthynas â gweddill y Rheoliadau, paragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(2).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi (3) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran—
(d)mesurau sy’n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu(4);
(e)atal, lleihau a rheoli gwastraff(5).
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (yn ymwneud â’r weithdrefn graffu briodol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), adran 27(1)(a) a Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), yr Atodlen, Rhan 1. Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), adran 1 o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).
Yn rhinwedd adran 59(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran unrhyw fater, neu at unrhyw ddiben, os ydynt wedi eu dynodi o ran y mater hwnnw neu at y diben hwnnw.
O.S. 2005/850, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd paragraff 28(1) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae O.S. 2005/850 yn cael effaith fe pe bai wedi ei wneud o dan adran 59(1) o’r Ddeddf honno.