RHAN 3Diwygio deddfwriaeth sylfaenol
Mesur Gwastraff (Cymru) 20106
1
Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 201012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn adran 9(3) (fel y’i diwygir gan reoliad 3(2)), ar y diwedd mewnosoder—
,a’i darllen fel pe bai—
a
yn Erthygl 2—
i
y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (a)—
a
‘waste’ has the meaning given by Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive;
ii
y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (c)—
c
‘hazardous waste’ has the meaning given in Article 3(2) of the Waste Framework Directive.
b
yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor.
3
Yn adran 9A(3)—
a
yn y diffiniad o “peiriant llosgi gwastraff” (“waste incineration plant”), yn lle “o’r Gyfarwyddeb honno” rhodder “o’r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol”;
b
yn y diffiniad o “peiriant cydlosgi gwastraff” (“waste co-incineration plant”) yn lle “o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio)” rhodder “o’r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol”;
c
ar ôl is-adran (3) mewnosoder—
4
Yn yr adran hon, ystyr “Cyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol” yw Cyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol13, gan ei darllen fel pe bai yn Erthygl 3—
a
ym mhwynt (37), “the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council of 19 November 2008 on waste”;
b
ym mhwynt (38), “the Waste Framework Directive” wedi ei roi yn lle “Directive 2008/98/EC”.
5
Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol yn unol ag is-adran (4), mae i gyfeiriadau yn y Gyfarwyddeb honno at y “Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (fel y’u mewnosodir gan is-adran (4)) yr ystyr a roddir gan adran 17(2) o’r mesur hwn.
4
Yn adran 17—
a
yn is-adran (2) (fel y’i diwygir gan reoliad 3(3)), ar y diwedd mewnosoder “, a chan ei ddarllen yn unol ag is-adrannau (3) i (8)”;
b
ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
3
Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.
4
Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—
a
ym mharagraff 2—
i
yn y geiriau o flaen pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;
ii
ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;
iii
ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (gweler adran 17A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;
b
ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;
c
paragraff 4 wedi ei hepgor.
5
Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai paragraff 2 wedi ei hepgor.
6
Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—
a
paragraffau 1 i 3 wedi eu hepgor;
b
ym mharagraff 4—
i
yn y frawddeg gyntaf, “Except where waste ceases to be waste in accordance with Council Regulation (EU) No 333/2011, Commission Regulation (EU) No 1179/2012 or Commission Regulation (EU) No 715/2013” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Where criteria” hyd at “paragraphs 1 and 2”;
ii
yr ail frawddeg wedi ei hepgor.
7
Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—
a
ym mharagraff 1—
i
y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;
ii
yn y drydedd frawddeg, “shall, subject to paragraph 1A, be binding” wedi ei roi yn lle “shall be binding”;
b
ar ôl paragraff 1, mewnosoder—
1A
Paragraph 1 is subject to—
a
a determination by the Welsh Ministers under regulation 8(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 200514that a specific batch of waste is to be treated as hazardous waste;
b
a decision made by the Welsh Ministers under regulation 9(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 200515that a specific batch of waste is to be treated as non-hazardous waste;
c
the treating of a specific batch of waste as hazardous or, as the case may be, non-hazardous, in accordance with regulations 8(2) or 9(2) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 200516;
d
regulations (if any) made by the Welsh Ministers under section 62A(2) of the Environmental Protection Act 1990 (lists of waste displaying hazardous properties)17.
c
paragraffau 2, 3 a 5 wedi eu hepgor;
d
ar ôl paragraff 6 mewnosoder—
6A
In this Article, the “list of waste” means the list established by Commission Decision 2000/532/EC.
e
paragraff 7 wedi ei hepgor.
8
Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.
5
Ar ôl adran 17 mewnosoder—
Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”17A
1
Wrth ddarllen Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol ag adran 17(4), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directive(fel y’i mewnosodwyd gan baragraff (a)(iii) o adran 17(4)) yw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu18, gan ei darllen yn unol ag is-adrannau (2) i (5).
2
Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—
a
ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC19 yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol ag is-adran (4);
b
paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.
3
Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.
4
At ddibenion is-adran (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—
a
y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;
b
y canlynol wedi ei fewnosod ar y diwedd—
and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 201720 has the same meaning as in those Regulations.
5
Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio yn unol ag is-adran (3), mae i’r cyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at y “Waste Framework Directive” (fel y’i mewnosodwyd gan is-adran (3)) yr ystyr a roddir gan adran 17(2) o’r mesur hwn.