Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010

6.—(1Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 9(3) (fel y’i diwygir gan reoliad 3(2)), ar y diwedd mewnosoder—

,a’i darllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2—

(i)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (a)—

(a)‘waste’ has the meaning given by Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive;;

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle pwynt (c)—

(c)‘hazardous waste’ has the meaning given in Article 3(2) of the Waste Framework Directive.;

(b)yn Erthygl 3(2), “Without prejudice to existing Community legislation,” wedi ei hepgor..

(3Yn adran 9A(3)—

(a)yn y diffiniad o “peiriant llosgi gwastraff” (“waste incineration plant”), yn lle “o’r Gyfarwyddeb honno” rhodder “o’r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol”;

(b)yn y diffiniad o “peiriant cydlosgi gwastraff” (“waste co-incineration plant”) yn lle “o Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (atal a rheoli llygredd integredig) (Ail-lunio)” rhodder “o’r Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol”;

(c)ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(4) Yn yr adran hon, ystyr “Cyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol” yw Cyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol(2), gan ei darllen fel pe bai yn Erthygl 3—

(a)ym mhwynt (37), “the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council of 19 November 2008 on waste”;

(b)ym mhwynt (38), “the Waste Framework Directive” wedi ei roi yn lle “Directive 2008/98/EC”.

(5) Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol yn unol ag is-adran (4), mae i gyfeiriadau yn y Gyfarwyddeb honno at y “Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (fel y’u mewnosodir gan is-adran (4)) yr ystyr a roddir gan adran 17(2) o’r mesur hwn..

(4Yn adran 17—

(a)yn is-adran (2) (fel y’i diwygir gan reoliad 3(3)), ar y diwedd mewnosoder “, a chan ei ddarllen yn unol ag is-adrannau (3) i (8)”;

(b)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3) Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu awdurdod lleol a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(4) Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau o flaen pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (gweler adran 17A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

(5) Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai paragraff 2 wedi ei hepgor.

(6) Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)paragraffau 1 i 3 wedi eu hepgor;

(b)ym mharagraff 4—

(i)yn y frawddeg gyntaf, “Except where waste ceases to be waste in accordance with Council Regulation (EU) No 333/2011, Commission Regulation (EU) No 1179/2012 or Commission Regulation (EU) No 715/2013” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Where criteria” hyd at “paragraphs 1 and 2”;

(ii)yr ail frawddeg wedi ei hepgor.

(7) Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)yn y drydedd frawddeg, “shall, subject to paragraph 1A, be binding” wedi ei roi yn lle “shall be binding”;

(b)ar ôl paragraff 1, mewnosoder—

1A.  Paragraph 1 is subject to—

(a)a determination by the Welsh Ministers under regulation 8(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005(3)that a specific batch of waste is to be treated as hazardous waste;

(b)a decision made by the Welsh Ministers under regulation 9(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005(4)that a specific batch of waste is to be treated as non-hazardous waste;

(c)the treating of a specific batch of waste as hazardous or, as the case may be, non-hazardous, in accordance with regulations 8(2) or 9(2) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005(5);

(d)regulations (if any) made by the Welsh Ministers under section 62A(2) of the Environmental Protection Act 1990 (lists of waste displaying hazardous properties)(6).;

(c)paragraffau 2, 3 a 5 wedi eu hepgor;

(d)ar ôl paragraff 6 mewnosoder—

6A.  In this Article, the “list of waste” means the list established by Commission Decision 2000/532/EC.;

(e)paragraff 7 wedi ei hepgor.

(8) Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

(5Ar ôl adran 17 mewnosoder—

Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio”

17A.(1) Wrth ddarllen Erthygl 2 o’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn unol ag adran 17(4), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directive(fel y’i mewnosodwyd gan baragraff (a)(iii) o adran 17(4)) yw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu(7), gan ei darllen yn unol ag is-adrannau (2) i (5).

(2) Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC(8) yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol ag is-adran (4);

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3) Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EEC”.

(4) At ddibenion is-adran (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar y diwedd—

and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017(9) has the same meaning as in those Regulations.

(5) Wrth ddarllen y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio yn unol ag is-adran (3), mae i’r cyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at y “Waste Framework Directive” (fel y’i mewnosodwyd gan is-adran (3)) yr ystyr a roddir gan adran 17(2) o’r mesur hwn.

(1)

2010 mccc 8. Mewnosodwyd adran 9A gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, adran 67.

(2)

OJ Rhif L 334, 17.12.2010, t 17, fel y’i cywirwyd gan gorigendwm (OJ Rhif L 158, 19.6.2012, t 25).

(3)

Diwygiwyd rheoliad 8(1) gan O.S. 2011/971 (Cy.141) ac O.S. 2015/1417 (Cy.141).

(4)

Diwygiwyd rheoliad 9(1) gan O.S. 2011/971 (Cy.141) ac O.S. 2015/1417 (Cy.141).

(5)

Diwygiwyd rheoliadau 8(2) a 9(2) gan O.S. 2015/1417 (Cy.141)

(6)

1990 p.43. Mewnosodwyd adran 62A gan O.S. 2005/894, a’i diwygio gan O.S. 2011/988, 2015/1360, 2018/721 (Cy.140) a 2018/942.

(7)

OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t 15, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 118, 18.7.2009, t 14).

(8)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t 32).

(9)

O.S. 2017/407, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.