Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019

Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004LL+C

7.—(1Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(1)wedi eu diwygio fel a ganlyn.

[F1(2) Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff (“waste facility”)”, hepgorer “(fel y’i hamnewidir gan reoliad 4(2))”;

(b)ar ôl y diffiniad o “gwastraff trefol a gasglwyd (“collected Municipal waste”)” mewnosoder—

ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2018/851 gan ei darllen yn unol â pharagraffau (3) i (9).]

F2(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4[F3Ar ôl rheoliad 2(2)] mewnosoder—

(3) Mae cyfeiriad at un neu fwy o Aelod-wladwriaethau mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau neu sy’n rhoi disgresiwn i Aelod-wladwriaeth neu Aelod-wladwriaethau i’w ddarllen fel cyfeiriad at Weinidogion Cymru, Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu’r awdurdod lleol a oedd, yn union cyn [F4diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (yn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd “IP completion day” yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) 2020)], yn gyfrifol am gydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â’r rhwymedigaeth honno neu’n cael arfer y disgresiwn hwnnw o ran Cymru.

(4) Mae Erthygl 2 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 2—

(i)yn y geiriau o flaen pwynt (a), “retained EU law” wedi ei roi yn lle “other Community legislation”;

(ii)ym mhwyntiau (b) a (c), “Regulation (EC) No 1069/2009” wedi ei roi yn lle “Regulation (EC) No 1774/2002”;

(iii)ym mhwynt (d), “the Mining Waste Directive (gweler rheoliad 2A)” wedi ei roi yn lle’r geiriau o “Directive 2006/21/EC” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3, y geiriau o “Without prejudice” hyd at “Community legislation,” wedi eu hepgor;

(c)paragraff 4 wedi ei hepgor.

[F5(5)  Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “A” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that a”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object is a by-product must be made—

(a)in accordance with any regulations setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific substances or objects; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)paragraffau 2 a 3 wedi eu hepgor.

(6) Mae Erthygl 6 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff 1, “Waste” wedi ei roi yn lle “Member States shall take appropriate measures to ensure that waste”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff 1—

1A.  Any decision as to whether a substance or object has ceased to be waste must be made—

(a)in accordance with any regulations or retained direct EU legislation (within the meaning given to that expression in the European Union (Withdrawal) Act 2018) setting out detailed criteria on the application of the conditions in paragraph 1 to specific types of waste; and

(b)having regard to any guidance published by the Welsh Ministers or the Natural Resources Body for Wales for the purposes of this Article.;

(c)ym mharagraff 2—

(i)yr is-baragraff cyntaf wedi ei hepgor;

(ii)yn y ail is-baragraff, “Any detailed criteria set out in guidance as referred to in paragraph 1A” wedi ei roi yn lle “Those detailed criteria”;

(iii)y trydydd a’r pedwerydd is-baragraffau wedi eu hepgor;

(d)paragraff 3 wedi ei hepgor;

(e)ym mharagraff 4—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf—

(aa)yn y frawddeg gyntaf, “Where criteria have not been set out as referred to in paragraph 1A(a), the Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Member State”;

(bb)yr ail frawddeg wedi ei hepgor;

(ii)yn yr ail is-baragraff—

(aa)“The Natural Resources Body for Wales” wedi ei roi yn lle “Member States”;

(bb)“by competent authorities” wedi ei hepgor.

(7) Mae Erthygl 7 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod o flaen paragraff 1—

A1.  In this Article, the “list of waste” means the list contained in the Annex to Commission Decision 2000/532/EC, as that list has effect in Wales.;

(b)ym mharagraff 1—

(i)y frawddeg gyntaf a’r ail frawddeg wedi eu hepgor;

(ii)“The list of waste shall, except as provided in Commission Decision 2000/532/EC, be binding as regards determination of the waste which is to be considered as hazardous waste or as non-hazardous waste.” wedi ei roi yn lle’r drydedd frawddeg;

(c)paragraffau 2, 3, 6 a 7 wedi eu hepgor.]

(8) Mae Atodiad 3 i’w ddarllen fel pe bai, yng nghofnod HP 9, yn yr ail frawddeg, “in the Member States” wedi ei hepgor.

(9) Ym mharagraff (3) ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(5Ar ôl rheoliad 2, mewnosoder—

Ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” yn rheoliad 2

2A.(1) Yn rheoliad 2(4)(a)(iii), ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Mwyngloddio” (“the Mining Waste Directiveyw Cyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnu, gan ei darllen yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2) Mae Erthygl 2 i’w darllen fe pe bai—

(a)ym mharagraff 2(c), y cyfeiriad at Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC yn gyfeiriad at yr Erthygl honno o’i darllen yn unol â pharagraff (4) o’r rheoliad hwn;

(b)paragraffau 3 a 4 wedi eu hepgor.

(3) Mae Erthygl 3(1) i’w darllen fel pe bai “Article 3(1) of the Waste Framework Directive, as read with Articles 5 and 6 of that Directive” wedi ei roi yn lle “Article 1(a) of Directive 75/442/EC”.

(4) At ddibenion paragraff (2)(a), mae Erthygl 11(3)(j) o Gyfarwyddeb 2000/60/EC i’w darllen fel pe bai—

(a)y cyfeiriad cyntaf at “Member States” yn gyfeiriad at yr Weinidogion Cymru neu Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)ar y diwedd, y canlynol wedi ei fewnosod—

and “environmental objectives”, in relation to a river basin district within the meaning of the Water Environment (Water Framework Directive) (England and Wales) Regulations 2017 has the same meaning as in those Regulations..

(6Yn rheoliad 7(10)F6..., ar y diwedd, mewnosoder “o’i ddarllen yn unol â pharagraff (11).

[F7(7) Ar ôl rheoliad 7(10) mewnosoder—

(11) At ddibenion rheoliad 7(10) mae Cyfarwyddeb 1999/31/EC i’w ddarllen fel pe bai—

(a)yn Erthygl 2—

(i)ym mhwynt (a), y cyfeiriad at y diffiniad o ‘waste’ wedi ei hepgor;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl pwynt (a)—

(aa)‘Waste’ has the meaning given in Article 3(1) of Directive 2008/98/EC (“the Waste Framework Directive”), as read with Articles 5 and 6 of that Directive“;

(b)yn Erthygl 3—

(i)ym mharagraff (2) “The” wedi ei roi yn lle “Without prejudice to existing Community legislation the”;

(ii)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)—

(3)  The management of extractive waste, within the meaning given in regulation 2(1) of the Environmental Permitting (England and Wales) Regulations 2016, is excluded from the scope of this Directive where it falls within the scope of Schedule 20, or paragraph 8(a) or (b) of Schedule 22, to those Regulations.]

Diwygiadau Testunol

F1Rhl. 7(2) wedi ei amnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(a)

F2Rhl. 7(3) wedi ei hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(b)

F3Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(c)(i)

F4Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(c)(ii)

F5Geiriau yn rhl. 7(4) wedi eu hamnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(c)(iii)

F6Geiriau yn rhl. 7(6) wedi eu hepgor (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) yn rhinwedd Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(d)

F7Rhl. 7(7) wedi ei amnewid (31.12.2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu) gan Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1339), rhlau. 1(3), 2(3)(e)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2020 ar diwrnod cwblhau CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)

I2Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2020 ar ddiwrnod cwblhau’r CG (yn unol â 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)), gweler rhl. 1(2)(b)