Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Esgeuluster Clinigol) (Cymru) 2019

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Penderfynu ar swm unrhyw daliad sydd i’w wneud allan o’r Cynllun

17.—(1Mewn cysylltiad â phob atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar swm unrhyw daliad sydd i’w wneud o dan reoliad 13 neu 14 (taliadau allan o’r Cynllun mewn cysylltiad ag atebolrwyddau aelodau a chyn-aelodau).

(2Wrth benderfynu ar swm y taliad sydd i’w wneud o dan yr amgylchiadau a bennir ym mhob un o baragraffau (3) i (8), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion perthnasol a bennir yn y paragraff hwnnw.

(3Pan fo iawndal wedi ei ddyfarndalu gan Lys yn erbyn aelod, y materion perthnasol yw swm—

(a)y dyfarndal,

(b)y costau cyfreithiol a’r costau cysylltiedig a ddyfarndelir i’r hawlydd, ac

(c)unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod.

(4Pan fo achos cyfreithiol yn destun setliad y mae’r aelod yn cytuno arno, y materion perthnasol yw swm—

(a)unrhyw swm a delir neu sy’n daladwy gan yr aelod mewn perthynas â hawliad yr hawlydd am iawndal,

(b)cyfraniad yr aelod tuag at unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan yr hawlydd, ac

(c)unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod.

(5Pan fo Llys, mewn unrhyw achosion cyfreithiol, wedi gwrthod dyfarndalu iawndal yn erbyn yr aelod, y materion perthnasol yw—

(a)swm unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod, a

(b)y graddau nad yw’r costau hynny yn adferadwy naill ai gan yr hawlydd neu gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol o dan reoliadau sydd wedi eu gwneud yn rhinwedd adran 26(5) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(1) (costau mewn achosion sifil).

(6Pan fo aelod, ac eithrio yng nghwrs achos cyfreithiol, wedi cytuno i wneud taliad er mwyn setlo hawliad, y materion perthnasol yw swm—

(a)y taliad y cytunir arno, a

(b)unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod mewn cysylltiad â’r hawliad.

(7Pan fo aelod, ac eithrio yng nghwrs achos cyfreithiol, wedi cytuno i wneud unrhyw gyfraniad tuag at y costau cyfreithiol neu’r costau cysylltiedig yr eir iddynt gan berson mewn cysylltiad â hawliad y person hwnnw yn erbyn yr aelod mewn cysylltiad ag atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, y materion perthnasol yw swm—

(a)y cyfraniad hwnnw, a

(b)unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod mewn cysylltiad â’r hawliad.

(8Pan fo aelod wedi cytuno i gael ei rwymo gan benderfyniad gan unrhyw berson neu gorff o ran gwneud taliad gan yr aelod hwnnw mewn cysylltiad ag atebolrwydd y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, y materion perthnasol yw swm—

(a)y taliad,

(b)unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan yr hawlydd mewn cysylltiad â’r hawliad, ac

(c)unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran yr aelod mewn cysylltiad â’r hawliad.

(9Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “aelod” i’w dehongli yn unol â rheoliad 15(2).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources