Cyfarwyddydau a chanllawiau
20.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi ar gael i gyrff cymwys yr wybodaeth a ganlyn ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adegau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol(1)—
(a)unrhyw gyfarwyddydau y mae Gweinidogion Cymru yn eu rhoi i gorff perthnasol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau’r corff hwnnw ganddo mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun, a
(b)unrhyw ganllawiau y mae Gweinidogion Cymru yn eu rhoi i gorff perthnasol o ran y modd y mae’r Cynllun i’w weinyddu.
(2) Ystyr “corff perthnasol” yw corff a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(5) o’r Ddeddf i gyflawni swyddogaethau mewn cysylltiad â gweinyddu’r Cynllun.
Mae’r cyfarwyddiadau a’r canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru ar gael ar http://www.nwssp.wales.nhs.uk neu drwy wneud cais ysgrifenedig i: Y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd, Y Tîm Gofal Sylfaenol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.