- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ganslo aelodaeth aelod o’r Cynllun o dan unrhyw rai o’r amgylchiadau a bennir ym mharagraffau (2) i (4).
(2) Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw pan fo’r aelod yn atebol i wneud taliad i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 (dyletswydd aelodau i wneud cyfraniadau at y Cynllun) a bo’r taliad hwnnw yn parhau i fod heb ei dalu am gyfnod o 28 o ddiwrnodau neu ragor sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth y taliad yn ddyledus.
(3) Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw pan fo’r aelod wedi methu â darparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 19 (dyletswydd aelodau i ddarparu gwybodaeth)—
(a)cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn am yr wybodaeth, neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn caniatáu yn ysgrifenedig gyfnod pellach ar gyfer darparu’r wybodaeth honno, cyn diwedd y cyfnod pellach hwnnw.
(4) Yr amgylchiadau a bennir yn y paragraff hwn yw pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cael effaith niweidiol ar weinyddu’r Cynllun yn effeithlon neu fuddiannau aelodau eraill i’r aelod barhau’n aelod o’r Cynllun.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r aelod drwy hysbysiad ysgrifenedig fod ei aelodaeth o’r Cynllun i beidio gydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad ac—
(a)pan fo’r canslo o dan amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2), (3) neu (4)—
(i)ni chaiff y dyddiad sydd i’w bennu fod yn llai nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, ond
(ii)caiff Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â chanslo’r aelodaeth drwy roi i’r aelod hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r perwyl hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: