Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2019 Rhif 435 (Cy. 103)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Safonau a Labelu Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 a chan adran 16(1)(a) ac (e) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19902.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.