2019 Rhif 444 (Cy. 107)
Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gofynion sifftio wedi eu bodloni
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 132(1) a (2) a 135 o Ddeddf Addysg 20021, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Gweithlu Addysg fel sy’n ofynnol gan adran 132(4) o’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Cynulliad ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
RHAN 1Cyflwyniad
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
4
Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol (Cofrestru Athrawon Dros Dro o Wladwriaethau Ewropeaidd Perthnasol) (Cymru a Lloegr) 20093 wedi eu dirymu.
RHAN 2Diwygio is-ddeddfwriaeth
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 20052
1
Mae Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) 20054 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2, yn lle’r diffiniad o “Rheoliadau 2005”, rhodder—
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 20155
3
Yn rheoliad 3(1)(d), yn lle “Rheoliadau 2005”, rhodder “Rheoliadau 2015”.
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 20123
1
Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 20126 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle paragraff 4 o Atodlen 2, rhodder—
4
1
Personau sydd â’r hawlogaeth, mewn perthynas â phroffesiwn athro neu athrawes ysgol, i ymarfer yn unol â Rheoliadau 2007 neu Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015, gan gynnwys yn unol ag—
a
penderfyniad a wneir neu hawl a gronnir o dan Reoliadau 2007 neu Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015 cyn y diwrnod ymadael yn unol â pharagraff 40 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 20197;
b
penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd 2015 yn unol â pharagraff 44 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019; neu
c
penderfyniad neu ddyfarniad a wneir o dan Reoliadau 2007 yn unol â pharagraff 48 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019.
2
Yn y paragraff hwn—
3
Ar ôl paragraff 4 o Atodlen 2, mewnosoder—
4A
1
Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), personau nas crybwyllir yn unrhyw baragraff arall o’r Atodlen hon ac sy’n meddu ar gymwysterau neu hyfforddiant proffesiynol ffurfiol sy’n caniatáu iddynt gael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol, neu ddilyn y proffesiwn hwnnw, mewn ysgol a gyllidir yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan y llywodraeth yn y wladwriaeth y dyfarnwyd y cymhwyster ynddi neu yr ymgymerwyd â’r hyfforddiant ynddi.
2
Nid yw’r cymwysterau neu’r hyfforddiant proffesiynol a grybwyllir yn is-baragraff (1), ym marn Gweinidogion Cymru, yn sylweddol wahanol i’r cymwysterau neu’r hyfforddiant proffesiynol penodol sy’n ofynnol i gael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru neu i ddilyn y proffesiwn hwnnw.
3
Nid yw personau yn destun unrhyw benderfyniad gan gorff, neu achosion gerbron corff sy’n cyfyngu neu a all gyfyngu ar allu person i addysgu mewn unrhyw wladwriaeth neu sydd wedi eu gwahardd fel arall rhag cael mynediad i broffesiwn athro neu athrawes ysgol neu rhag dilyn y proffesiwn hwnnw.
Diwygio Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 20154
1
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 201510 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 7(1), yn lle “bodloni un neu fwy o’r amodau”, rhodder “bodloni’r amod a ganlyn”.
3
Yn rheoliad 7(2), hepgorer “cyntaf”.
4
Mae rheoliad 7(3) wedi ei ddirymu.
Diwygio Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 20155
1
Mae Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Swyddogaethau Ychwanegol a Dirymu) (Cymru) 201511 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2—
a
hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb”;
b
yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau”, rhodder—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 201512”;
3
Yn erthygl 3(1) hepgorer “at ddiben y Gyfarwyddeb”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20156
1
Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 201513 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn lle paragraff 8 o Atodlen 2, rhodder—
8
Person sy’n athro neu athrawes gymwysedig a ddaeth yn gymwysedig felly yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a chan baragraff 4 neu 4A o Atodlen 2 iddynt.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)