Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 20124.

Yn Atodlen 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 20124

(a)

yn y tabl, ym mharagraff (w), yn y golofn sy’n dwyn y pennawd “Disgrifiad o’r Datblygiad” yn is-baragraff (ii) yn lle’r geiriau o “sydd o fewn cwmpas” hyd at “2012/18/EU” rhodder “a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol hysbysu amdano o dan reoliad 6(6) o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 20155”;

(b)

o dan y pennawd Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (m)(i) rhodder—

“(i)

mae i’r ymadroddion “damwain fawr” a “sefydliad” fel y maent yn ymddangos yn y paragraff hwnnw yr un ystyron yn eu trefn â “major accident” ac “establishment” yn rheoliad 2 o Reoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr 2015.”