Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

4.  Yn erthygl 3 o Orchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011(1)

(a)ym mharagraff (3), yn lle “alluogi’r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â’i rhwymedigaethau o dan y canlynol” rhodder “alluogi cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth(2) a weithredai”;

(b)yn lle paragraff (4)(a) rhodder—

(a)mae i “amcanion amgylcheddol” yr un ystyr ag a roddir i “environmental objectives” yn Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017;.

(1)

O.S. 2011/2829 (Cy. 302), yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2013/755 (Cy. 90) a 2018/1216 (Cy. 249).

(2)

Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn cynnwys O.S. 2017/1012. Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Adar Gwyllt yn cynnwys Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69) ac O.S. 2017/1012. Mae’r ddeddfwriaeth a weithredai’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yn cynnwys O.S. 2003/3245, 2004/99 a 2017/407.