- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;
(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd), mewnosoder—
“(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Gyfarwyddeb yr UE neu Gyfarwyddeb Euratom i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y Gyfarwyddeb honno at aelod-wladwriaeth mewn darpariaeth sy’n gosod rhwymedigaeth ar aelod-wladwriaeth, neu sy’n rhoi disgresiwn iddi, yn gyfeiriad naill ai at Weinidogion Cymru neu at yr awdurdod lleol gan ddibynnu ar ba un oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, yn gyfrifol am gydymffurfiaeth â’r rhwymedigaeth honno, neu am arfer y disgresiwn hwnnw, o ran Cymru.”
(3) Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (5) mewnosoder—
“(6) At ddibenion paragraff (4)(c), mae cyfeiriad at Erthyglau 7(1) ac 8 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC(2) i’w ddarllen yn unol â’r addasiadau a ganlyn—
(a)fel pe bai unrhyw gyfeiriad at Atodiad 5 o’r Gyfarwyddeb honno yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygiwyd gan Ran 1 o Atodlen 5 i Reoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017(3);
(b)yn Erthygl 8, fel pe bai—
(i)ym mharagraff 1, y mewnoliad olaf wedi ei hepgor;
(ii)ym mharagraff 2, y frawddeg gyntaf wedi ei hepgor;
(iii)paragraff 3 wedi ei hepgor.”
(4) Yn lle rheoliad 12(6), rhodder —
“(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, sail unrhyw benderfyniad o dan baragraff (3) a’r ddogfennaeth a ddarperir o dan baragraff (5) sy’n ategu’r penderfyniad.”
(5) Ar ôl rheoliad 23, mewnosoder—
23A.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl, gyda’r nod o hysbysu defnyddwyr.
(2) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1)—
(a)cael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol;
(b)cynnwys, o leiaf, wybodaeth am yr holl gyflenwadau dŵr unigol sy’n—
(i)mwy na 1,000m³ y diwrnod ar gyfartaledd, neu
(ii)gwasanaethu mwy na 5,000 o bersonau;
(c)cwmpasu cyfnod o dair blwyddyn galendr.
(3) Rhaid i’r adroddiad cyntaf o dan y rheoliad hwn gwmpasu’r blynyddoedd 2017, 2018 a 2019 a rhaid iddo gael ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021.
(4) Rhaid i adroddiadau dilynol o dan y rheoliad hwn gael eu cyhoeddi fesul ysbeidiau nad ydynt yn fwy na thair blynedd.
(5) Rhaid i unrhyw adroddiad a gyhoeddir o dan baragraff (1) hefyd fod ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Dŵr Yfed.”
O.S. 2017/1041 (Cy. 270), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.J. Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/101/EU (OJ Rhif L 311, 31.10.2014, t.32).
O.S. 2017/407, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/942.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: