2019 Rhif 463 (Cy. 111)

Addysg, Cymru
Amaethyddiaeth, CymruY Diwydiannau Da Byw
Anifeiliaid, CymruIechyd AnifeiliaidLles Anifeiliaid
Bwyd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Dŵr, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Pysgodfeydd Môr, CymruCadwraeth Pysgod Môr

Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

a

ac eithrio i’r graddau yr ymwneir â’r rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (b), adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)1, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi; a

b

i’r graddau yr ymwneir â rheoliadau 5, 6, 10 a 11, adrannau 1, 7(1), 8(1), 10, 14(1) a 23 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19812.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi3 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf 1972 o ran—

a

mesurau yn y maes milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd pobl4;

b

y polisi amaethyddol cyffredin5;

c

mesurau ynglŷn â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys prosesau sylfaenol cynhyrchu bwyd a mesurau sy’n ymwneud â phorthiant a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt6;

d

mesurau sy’n ymwneud ag atal ac adfer difrod amgylcheddol7;

e

mesurau sy’n ymwneud â rheoli a rheoleiddio achosion o ollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig, gosod yr organeddau hynny ar y farchnad a’u symud ar draws ffiniau8;

f

mesurau sy’n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfedd â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed ac amcanion ansawdd aer9;

g

deunyddiau sy’n darparu maetholion i blanhigion neu a fwriedir i ddarparu maetholion i blanhigion10;

h

ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu i’w ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd11.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r UE yn rheoliad 9 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd12.