NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran Cymru i nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth.

Mae’r diwygiadau’n diweddaru cyfeiriadau at amryw o ddarnau o ddeddfwriaeth y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud ag amaethyddiaeth, iechyd anifeiliaid, lles anifeiliaid, addysg, diogelu’r amgylchedd, bwyd, iechyd planhigion, pysgodfeydd môr a dŵr.

Mae rheoliad 31 yn dirymu pedwar offeryn mewn perthynas ag amaethyddiaeth a physgodfeydd môr.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.