RHAN 8Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd môr
Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003
28. Yn erthygl 2(1) o Orchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003, yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yn lle “fel y’i cywirwyd gan y Corigendwm i Atodiad XII i Reoliad y Cyngor ac fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 812/2000 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1298/2000;” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/812 Senedd Ewrop a’r Cyngor(1);”.
(1)
OJ Rhif L 133, 29.5.2015, t. 1, fel y’i cywirwyd gan gorigendwm (OJ Rhif L 319, 4.12.2015, t. 21).