RHAN 8Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd môr

Gorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 200328

Yn erthygl 2(1) o Orchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003, yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yn lle “fel y’i cywirwyd gan y Corigendwm i Atodiad XII i Reoliad y Cyngor ac fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 812/2000 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1298/2000;” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/812 Senedd Ewrop a’r Cyngor82;”.