RHAN 3Diwygiadau i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201112.

(1)

Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 201143 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cynnyrch” (“product”), ar ôl “97/78/EC)” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/119644”.

(3)

Yn rheoliad 9, ar ôl “2007/275/EC”, mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/119645”.

(4)

Yn rheoliad 10(a) ar ôl “gwledydd” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 494/201446”.

(5)

Yn rheoliad 11(4) ar ôl “trefnu” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.

(6)

Yn rheoliad 12(4), ar ôl “2007/275/EC” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.

(7)

Yn rheoliad 15(1)(a), ar ôl “trefnu” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU47”.

(8)

Yn rheoliad 20 ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

“(4)

Yn y rheoliad hwn ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” (“Regulation (EC) No 1069/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/200948 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau ar iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a sgil-gynhyrchion sy’n deillio ohonynt, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) Rhif 1385/201349

(9)

Yn rheoliad 28 yn lle’r geiriau o “mewn parth rhydd” hyd at y diwedd rhodder—
“gan dorri’r darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad (EU) Rhif 952/201350 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb—

(a)

[Teitl 5, Pennod 3, yn adran 2,] ynghylch parthau rhydd, a

(b)

Theitl 7, Pennod 3, yn adran 2, ynghylch warysau”.

(10)

Yn rheoliad 32(4) yn lle’r geiriau “Erthyglau 37” hyd at y diwedd rhodder “Erthyglau 135 i 137 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb”.

(11)

Yn rheoliad 35(2), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC51” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/101252.”

(12)

Yn Atodlen 2—

(a)

yn Rhan 1, ar ôl paragraff 7 mewnosoder —

“Dehongli8.

Yn y Rhan hon—

“ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC53” (“Council Directive 64/432/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid yn effeithio ar y fasnach o fewn y Gymuned mewn anifeiliaid buchol a moch, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/81954;
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC” (“Council Directive 91/68/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC55 ar anhwylderau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu’r fasnach o fewn y gymuned mewn anifeiliaid o deulu’r ddafad ac o deulu’r afr, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/200256.;”;

(b)

yn Rhan 2, yn lle paragraff 10, rhodder “Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio dros dro o drydedd wlad, mae’r darpariaethau yn Adran 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/659 yn gymwys.”.