Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
12.—(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cynnyrch” (“product”), ar ôl “97/78/EC)” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196(2)”.
(3) Yn rheoliad 9, ar ôl “2007/275/EC”, mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196(3)”.
(4) Yn rheoliad 10(a) ar ôl “gwledydd” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 494/2014(4)”.
(5) Yn rheoliad 11(4) ar ôl “trefnu” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.
(6) Yn rheoliad 12(4), ar ôl “2007/275/EC” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.
(7) Yn rheoliad 15(1)(a), ar ôl “trefnu” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU(5)”.
(8) Yn rheoliad 20 ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—
“(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” (“Regulation (EC) No 1069/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009(6) Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau ar iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a sgil-gynhyrchion sy’n deillio ohonynt, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) Rhif 1385/2013(7)”;
(9) Yn rheoliad 28 yn lle’r geiriau o “mewn parth rhydd” hyd at y diwedd rhodder—
“gan dorri’r darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad (EU) Rhif 952/2013(8) Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb—
[Teitl 5, Pennod 3, yn adran 2,] ynghylch parthau rhydd, a
Theitl 7, Pennod 3, yn adran 2, ynghylch warysau”.
(10) Yn rheoliad 32(4) yn lle’r geiriau “Erthyglau 37” hyd at y diwedd rhodder “Erthyglau 135 i 137 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb”.
(11) Yn rheoliad 35(2), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC(9)” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/1012(10).”
(12) Yn Atodlen 2—
(a)yn Rhan 1, ar ôl paragraff 7 mewnosoder —
“Dehongli
8. Yn y Rhan hon—
“ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC(11)” (“Council Directive 64/432/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid yn effeithio ar y fasnach o fewn y Gymuned mewn anifeiliaid buchol a moch, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/819(12);
ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC” (“Council Directive 91/68/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC(13) ar anhwylderau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu’r fasnach o fewn y gymuned mewn anifeiliaid o deulu’r ddafad ac o deulu’r afr, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2002(14).;”;
(b)yn Rhan 2, yn lle paragraff 10, rhodder “Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio dros dro o drydedd wlad, mae’r darpariaethau yn Adran 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/659 yn gymwys.”.
OJ Rhif L 197, 22.7.2016, t. 10.
OJ Rhif L 197, 22.7.2016, t. 10.
OJ Rhif L 139, 14.5.2014, t. 11.
OJ Rhif L 158, 10.6.2013, t. 234.
OJ Rhif L 300, 1.14.2009, t. 1.
OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 86.
OJ Rhif L 269, 10.10.2013, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/2339 (OJ Rhif L 354, 23.12.2016, t. 32).
OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t. 29, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/1012 (OJ Rhif L 171, 29.6.2016, t. 66).
OJ Rhif L 171, 29.6.2016, t. 66.
OJ Rhif L 121, 29.7.1964, t. 1977.
OJ Rhif L 129, 27.5.2015, t. 28.
OJ Rhif L 46, 19.2.1991, t. 19.
OJ Rhif L 308, 12.11.2016, t. 29.