Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” (“plant passport authority”) yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 28 o’r Gorchymyn;

  • ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 20053;

  • ystyr “gwaith adfer” (“remedial work”) yw unrhyw gamau a gymerir gan berson at ddibenion cydymffurfio â hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn;

  • mae i “gwiriad adnabod” yr ystyr a roddir i “identity check” gan Erthygl 13a(1)(b)(ii) o’r Gyfarwyddeb;

  • mae i “gwiriad dogfennol” yr ystyr a roddir i “documentary check” gan Erthygl 13a(1)(b)(i) o’r Gyfarwyddeb;

  • mae i “gwiriad iechyd planhigion” yr ystyr a roddir i “plant health check” gan Erthygl 13a(1)(b)(iii) o’r Gyfarwyddeb;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned4;

  • ystyr “hysbysiad adfer” (“remedial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan erthygl 31(1) neu (4) neu 33(3) o’r Gorchymyn;

  • ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth o fewn yr ystyr a roddir i “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o’r Gyfarwyddeb, neu lwyth y mae gan arolygydd amheuaeth resymol ei fod yn lwyth o’r fath, o unrhyw un neu ragor o’r deunyddiau perthnasol a ganlyn y mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn gymwys iddynt—

    1. a

      rhisgl wedi ei wahanu o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 3 neu Ran B, paragraff 3 i’r Gorchymyn; neu

    2. b

      pren o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 4 neu Ran B, paragraff 1 i’r Gorchymyn, ac eithrio deunydd pecynnu pren a ddefnyddir mewn gwirionedd wrth gludo gwrthrychau o bob math;

    mae i “man arolygu a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved place of inspection” yn erthygl 3 o’r Gorchymyn; ac

  • ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded i gynnal unrhyw weithgaredd y mae erthygl 38 neu 39 o’r Gorchymyn yn gymwys iddo.

2

Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn y Gorchymyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gorchymyn.

Ffioedd3

1

Mae ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy i Weinidogion Cymru.

2

Mae’r ffi sy’n daladwy am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw wedi ei phennu yn Atodlen 1.

3

Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded (gan gynnwys cais i estyn neu amrywio trwydded), am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â chais am drwydded neu er mwyn monitro cydymffurfedd â thelerau ac amodau trwydded wedi ei phennu yn Atodlen 2.

4

Rhaid i fewnforiwr llwyth a reolir dalu—

a

yn achos gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir ar gyfer y math perthnasol o lwyth yn eitem 1 neu 2 o’r tabl yn Atodlen 3;

b

yn achos gwiriad dogfennol mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 1 o’r tabl yn Atodlen 4;

c

yn achos gwiriad adnabod mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 2 o’r tabl yn Atodlen 4.

5

Pan fo gwiriad iechyd planhigion, ar gais mewnforiwr llwyth a reolir, yn cael ei gynnal ar y llwyth mewn man arolygu a gymeradwywyd, rhaid i’r mewnforiwr dalu’r ffi o £30 ar gyfer pob ymweliad a wneir gan arolygydd wrth gynnal y gwiriad iechyd planhigion yn y man arolygu a gymeradwywyd, yn ychwanegol at y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (4)(a).

6

Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd mewn cysylltiad â llwyth a reolir.

Dirymiadau4

Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

a

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) 20065;

b

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 20086;

c

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 20097;

d

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 20108.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru