2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” (“plant passport authority”) yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 28 o’r Gorchymyn;
ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(1);
ystyr “gwaith adfer” (“remedial work”) yw unrhyw gamau a gymerir gan berson at ddibenion cydymffurfio â hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn;
mae i “gwiriad adnabod” yr ystyr a roddir i “identity check” gan Erthygl 13a(1)(b)(ii) o’r Gyfarwyddeb;
mae i “gwiriad dogfennol” yr ystyr a roddir i “documentary check” gan Erthygl 13a(1)(b)(i) o’r Gyfarwyddeb;
mae i “gwiriad iechyd planhigion” yr ystyr a roddir i “plant health check” gan Erthygl 13a(1)(b)(iii) o’r Gyfarwyddeb;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned(2);
ystyr “hysbysiad adfer” (“remedial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan erthygl 31(1) neu (4) neu 33(3) o’r Gorchymyn;
ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth o fewn yr ystyr a roddir i “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o’r Gyfarwyddeb, neu lwyth y mae gan arolygydd amheuaeth resymol ei fod yn lwyth o’r fath, o unrhyw un neu ragor o’r deunyddiau perthnasol a ganlyn y mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn gymwys iddynt—
rhisgl wedi ei wahanu o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 3 neu Ran B, paragraff 3 i’r Gorchymyn; neu
pren o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 4 neu Ran B, paragraff 1 i’r Gorchymyn, ac eithrio deunydd pecynnu pren a ddefnyddir mewn gwirionedd wrth gludo gwrthrychau o bob math;
mae i “man arolygu a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved place of inspection” yn erthygl 3 o’r Gorchymyn; ac
ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded i gynnal unrhyw weithgaredd y mae erthygl 38 neu 39 o’r Gorchymyn yn gymwys iddo.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn y Gorchymyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gorchymyn.
O.S. 2005/2517; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2009/594, 2012/2707, 2013/755, 2013/2691 a 2014/2420 fel y’u cymhwysir yng Nghymru gan 2015/1723.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1920 (OJ Rhif L 271, 20.10.2017, t. 34).