Ffioedd

3.—(1Mae ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy i Weinidogion Cymru.

(2Mae’r ffi sy’n daladwy am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw wedi ei phennu yn Atodlen 1.

(3Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded (gan gynnwys cais i estyn neu amrywio trwydded), am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â chais am drwydded neu er mwyn monitro cydymffurfedd â thelerau ac amodau trwydded wedi ei phennu yn Atodlen 2.

(4Rhaid i fewnforiwr llwyth a reolir dalu—

(a)yn achos gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir ar gyfer y math perthnasol o lwyth yn eitem 1 neu 2 o’r tabl yn Atodlen 3;

(b)yn achos gwiriad dogfennol mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 1 o’r tabl yn Atodlen 4;

(c)yn achos gwiriad adnabod mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 2 o’r tabl yn Atodlen 4.

(5Pan fo gwiriad iechyd planhigion, ar gais mewnforiwr llwyth a reolir, yn cael ei gynnal ar y llwyth mewn man arolygu a gymeradwywyd, rhaid i’r mewnforiwr dalu’r ffi o £30 ar gyfer pob ymweliad a wneir gan arolygydd wrth gynnal y gwiriad iechyd planhigion yn y man arolygu a gymeradwywyd, yn ychwanegol at y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (4)(a).

(6Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd mewn cysylltiad â llwyth a reolir.