Dirymiadau a darpariaeth drosiannol25
1
Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—
a
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Phytophthora ramorum) (Prydain Fawr) 200430; a
b
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Phytophthora ramorum) (Prydain Fawr) (Diwygio) 200731.
2
Mae unrhyw hysbysiad a ddyroddir neu drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth arall a roddir o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Phytophthora ramorum) (Prydain Fawr) 2004 neu at ddibenion y Gorchymyn hwnnw ac sy’n effeithiol pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym yn parhau mewn grym fel pe baent wedi eu dyroddi neu wedi eu rhoi o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 neu at ddibenion y Gorchymyn hwnnw.