2019 Rhif 498 (Cy. 115)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2019

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 19671a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn erthygl 3(a)(ii) a (iii) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.