Rheoliad 2

YR ATODLENTanwyddau Awdurdodedig

1.  ALDI Winter Flame Smokeless Fuel, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl/asid neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sydd naill ai’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d)sy’n pwyso 55 neu 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

2.  Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, Swydd Durham, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 75% o’r cyfanswm pwysau), glo anweddolrwydd-isel a golosg adweithiol (sef tua 20 i 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

3.  Brics glo Aimcor Pureheat, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd gyda hicyn ar ffurf llinell sengl ar un ochr a hicyn ar ffurf llinell ddwbl ar yr ochr arall;

(d)sy’n pwyso 75 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

4.  Brics glo Ancit, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp clustog;

(d)sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

5.  Big K Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 172 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 0.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

6.  Big K Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 193 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 0.9 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

7.  Big K Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 215 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

8.  Big K Instant Lighting Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

9.  Big K Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Big K Products UK Limited yn Parque Industrial Alvear, 2126 Alvear, Provincia de Santa Fe, yr Ariannin—

(a)a gyfansoddir o bren quebracho gwyn a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 450°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

10.  Big K Restaurant Grade Charcoal Briquettes a weithgynhyrchir gan Big K Esereso Carbon Products Ltd, PO Box 15469, Accra North, Ghana—

(a)a gyfansoddir o bren Terminalia Superba a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses allwthio wedi ei dilyn gan broses o byrolysis mewn retórt ar tua 450°C;

(c)sy’n frics glo chweonglog, sy’n 4.5 i 5.5 centimedr o ddiamedr a’n 5 i 20 centimedr o hyd. Mae gan y brics graidd gwag sydd tua 1.5 centimedr o ddiamedr; a

(d)nad yw mwy nag 0.1% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

11.  Brics glo Black Diamond Gem, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tuag 20 i 30% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 12 i 22% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n rhedeg yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

12.  Bord na Móna Firelogs, a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 255 o filimetrau o hyd gyda diamedr o 75 o filimetrau, gyda rhigolau ar hyd un wyneb hydredol;

(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram (net) ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

13.  Brics glo Bord na Móna Firepak (a farchnetir hefyd fel brics glo Arigna Special), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tuag 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio, ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

14.  Brand Choice Fire Log a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sy’n foncyffion tân sydd tua 172 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 0.8 cilogram fesul boncyff tân ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

15.  Brics glo Brazier a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl/asid neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sydd naill ai’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d)sy’n pwyso 55 neu 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

16.  Brics glo Briteflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.9% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

17.  Brics glo Briteheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tua 15% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp clustog gyda hicyn ar ffurf llinell yn rhedeg yn hydredol o gwmpas y fricsen;

(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

18.  Brics glo Briteheat Plus, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 75 i 95% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

19.  Bryant and May Firelogs, a weithgynhyrchir gan Swedish Match yn Kostenetz, Bwlgaria—

(a)a gyfansoddir o gwyr paraffin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau), pren poplys mâl (sef tua 25% o’r cyfanswm pwysau), blawd gwenith (sef tua 15% o’r cyfanswm pwysau), solidau cyneuadwy ar wasgar mewn cwyr paraffin ar ffurf jel (sef tua 1 % o’r cyfanswm pwysau) a dŵr, cyfryngau chwyddo a chadwolyn (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys allwthio;

(c)sydd â’u trawstoriad yn gwadrant gyda radiws o tua 80 o filimetrau a’u hyd tua 265 o filimetrau gyda stribyn cynnau ar hyd un ymyl;

(d)sy’n pwyso tuag 1.15 cilogram; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

20.  Brics glo Charglow, a weithgynhyrchir gan Polchar Spolka z organiczona odpowiedzialnoscia, Police, Zachodniopomorskie, Gwlad Pwyl—

(a)a gyfansoddir o gols glo meddal (sef tua 45 i 95% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 110°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

21.  Coalite, a weithgynhyrchir gan Coalite Products Limited yn Bolsover, ger Chesterfield, Swydd Derby ac yn Grimethorpe, De Swydd Efrog drwy ddefnyddio proses o garboneiddio ar dymheredd isel.

22.  Brics glo Coalite Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260ºC;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd tua 84 o filimetrau o hyd, 38 o filimetrau o led a 62 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 118 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.9% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

23.  Golosg a weithgynhyrchir gan—

(a)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, ac a werthir fel “Sunbrite”;

(b)Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, De Swydd Efrog ac a werthir fel “Sunbrite” neu “Monckton Boiler Beans”;

(c)Corus UK Limited yn Teesside Works, Redcar & Cleveland ac a werthir fel “Redcar Coke Nuts (Doubles)”; a

(d)Coal Products Limited yn Cwm Coking Works, Llanilltud Faerdref, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf ac a werthir fel “Cwm Coke Doubles”.

24.  Cosycoke (a farchnetir hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus), a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, De Swydd Efrog ac Aimcor Supercoke (a farchnetir hefyd fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, ac ym mhob achos—

(a)a gyfansoddir o olosg caled o faint penodol (sef tua 45 i 65% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy eu blendio;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

25.  Brics glo Cosyglo Smokeless a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 35 i 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (hyd at tua 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (hyd at tuag 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts neu rwymwr organig arall (hyd at 5% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd tua 80 o filimetrau o hyd, 60 o filimetrau o led a 40 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.8% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

26.  CPL Restaurant Grade Charcoal, a weithgynhyrchir gan Kunfayakun Global Treasures Limited (KGT) yn Kunfayakun Stores, No. 1, Aranse Street, Station, Sagamu, Orgub State E17, Shagamu International Market, Nigeria—

(a)a gyfansoddir o Anogeissus Leiocarpus, Burkea Africana, Distemonanthus Benthamianus a Viteloria Paracloxum wedi eu pyrolysu;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 450°C i 550°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 50 a 180 o filimetrau; a

(d)nad yw mwy nag 1.9% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

27.  Direct Charcoal Blue Bag Premium Grade Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Direct Charcoal yn Ekamanzi Road, Dalton, KwaZulu Natal, Gweriniaeth De Affrica—

(a)a gyfansoddir o bren Acacia mercii a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 420 i 480°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

28.  Direct Charcoal Blue Bag Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Direct Charcoal Limited yn Ruta 25, km. 9,5 –Pilar (cp.1629) Buenos Aires, yr Ariannin—

(a)a gyfansoddir o bren quebracho gwyn a phren guayacan wedi eu pyrolysu;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 420 i 480°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

29.  Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lwch y tŵr (sef tua 95% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â’r llythyren “T” ar un ochr;

(d)sy’n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

30.  Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lwch y tŵr (sef tua 95% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr seiliedig ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

31.  Brics glo Dual a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 55 i 80% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 8 i 20% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 8 i 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sgwâr;

(d)sy’n pwyso 100 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

32.  Duraflame Firelogs, a weithgynhyrchir gan Paramelt BV, Costerstraat 18, PO Box 86, 1700 AB Heerhugowaard, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr petrolewm mwynol (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau) a ffibr pren caled mâl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 320 o filimetrau o hyd, 90 o filimetrau o uchder ac 85 o filimetrau o led;

(d)sy’n pwyso 1.45 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

33.  Brics glo Ecoal (a farchnetir hefyd fel brics glo Homefire Ecoal a Supertherm 30), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300ºC;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd fel arfer yn 72 o filimetrau o hyd, 58 o filimetrau o led a 42 o filimetrau o uchder neu sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio sydd fel arfer yn 70 o filimetrau o hyd, 73 o filimetrau o led a 39 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 125 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

34.  Brics glo Ecoal 50, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 30 i 55% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 25 i 35% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 5% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig naturiol (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a’u trin wedyn â gwres o tua 300ºC mewn amgylchedd rheoledig gydag ocsigen gostyngedig;

(c)sy’n frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws y wynebau gwastad;

(d)sy’n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

35.  Brics glo Ecoal a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu, sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio neu, sy’n ofoidau siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch pob bricsen neu, sy’n frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws yr wyneb gwastad;

(d)sy’n pwyso 125 i 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

36.  Brics glo Ecoal a weithgynhyrchir gan CPL Fuels Ireland, Foynes Briquetting Works, Foynes Port, Foynes, Co. Limerick, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu, sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio neu, sy’n ofoidau siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch pob bricsen neu, sy’n frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws yr wyneb gwastad;

(d)sy’n pwyso 125 i 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

37.  Brics glo Ecobrite, a weithgynhyrchir gan Arigna Fuels Limited yn Arigna, Carrick-on-Shannon, County Roscommon, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 96% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd mewn dau faint;

(d)sydd, ar gyfartaledd, yn pwyso 37 gram yn achos y maint lleiaf a 48 gram yn achos y maint mwyaf; ac

(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

38.  EDF Fuel Briquettes, a weithgynhyrchir gan TheGreenFactory yn y Laboratoire de Chimie Agro-industrielle UMR 1010 INRA/INP-ENSIACET AGROMAT, Site de l’ENIT 47, Avenue D’Azereiz, -BP 1629 65016 Tarbes Cedex, Ffrainc—

(a)a gyfansoddir o tua 100 gram o Miscanthus heb ei brosesu (sef tua 45% o’r cyfanswm pwysau), tua 95 gram o ester Copra (sef tua 43% o’r cyfanswm pwysau), a thua 25 gram o rwymwr a gynhyrchwyd o Miscanthus (wedi ei brosesu â chalsiwm ocsid, sy’n ffurfio tua 0.5% o’r cyfanswm pwysau), sef gweddill y pwysau;

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys prosesu Miscanthus, cymysgu, poethwasgu, a throchi mewn baddon ester;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp silindr, 120 o filimetrau o uchder gyda diamedr o 60 o filimetrau, a thwll canolog ar siâp seren yn treiddio drwy hyd hiraf y fricsen;

(d)sy’n pwyso 220 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

39.  Brics glo Excel+, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef 65 i 70% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);

(b)a gynhyrchir ar y tymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sgwâr;

(d)sy’n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.9% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

40.  Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft GmbH yn Hückelhoven, yr Almaen—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 95.5% o’r cyfanswm pwysau) a lleisw amoniwm lignosylffonad yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo ag arlliw ariannaidd ar siâp clustog, wedi eu marcio â’r llythrennau “S” a “J”;

(d)sy’n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(e)y mae cyfanswm eu pwysau yn cynnwys tua 1.2% o sylffwr.

41.  Fire Drops a weithgynhyrchir gan OU TrendSteel Products, Anri, Ropažu novads, Rigas rajons, Rigas, LV-2133, Latfia–

(a)a gyfansoddir o falurion glo caled (sef tua 65.3% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal sy’n achosi fflam hir (sef tua 25.7% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, ac wedyn eu trin â gwres o tua 250-280°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd sydd bron yn grwn, gyda diamedr o 70mm a thrwch o tua 41 o filimetrau yng nghanol y fricsen;

(d)sy’n pwyso 115 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

42.  Brics glo Fireglo, a weithgynhyrchir gan Les Combustibles de Normandie yn Caen, Ffrainc, a chan La Société Rouennaise de Défumage yn Rouen, Ffrainc—

(a)a gyfansoddir o lychau Cymreig wedi eu golchi (sef tua 92% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o byg glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 330°C;

(c)sy’n ofoidau gyda thair llinell ar un ochr a’r ochr arall yn llyfn;

(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.8% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

43.  Fireglow Firelog a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk BV, Apolloweg 4, 4782 SB, Moerdijk, Yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef tua 40 i 45% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses drin â gwres ac allwthio;

(c)sy’n foncyffion tân sydd tua 180 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 70 o filimetrau o uchder, gydag un rhigol yn rhedeg ar hyd tri o’r pedwar wyneb;

(d)sy’n pwyso 0.80 cilogram fesul boncyff tân ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

44.  Brics glo Firegold, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 36 i 51% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd fel arfer yn 54 o filimetrau o hyd, 58 o filimetrau o led a 34 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 87 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

45.  Flamefast firelog a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk BV, Apolloweg 4, 4782 SB, Moerdijk, Yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef tua 40 i 45% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses drin â gwres ac allwthio;

(c)sy’n foncyffion tân sydd tua 215 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 70 o filimetrau o uchder, gydag un rhigol yn rhedeg ar hyd tri o’r pedwar wyneb; a

(d)sy’n pwyso 0.95 cilogram fesul boncyff tân ar gyfartaledd.

46.  Gardeco Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 172 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 0.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

47.  Gardeco Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 237 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

48.  G N Grosvenor (Fuel Express) Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Pabensa S.A. Aviadores del Chaco, Asuncion, Paraguay—

(a)a gyfansoddir o’r coedydd caled Prosopsis nigra, Cordia alliodora, Centrolobium, Prosopsis kuntzei, Caesalpinia, Goncalo alves a Tabebuia wedi eu pyrolysu;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tuag 800°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol rhwng 20 a 120 o filimetrau, heb eu marcio; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

49.  Brics glo Homefire Ecoal a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu, sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio neu, sy’n ofoidau siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch pob bricsen neu, sy’n frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws yr wyneb gwastad;

(d)sy’n pwyso 125 i 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

50.  Brics glo Homefire Ecoal a weithgynhyrchir gan CPL Fuels Ireland, Foynes Briquetting Works, Foynes Port, Foynes, Co. Limerick, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o ronnynau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu, sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio neu, sy’n ofoidau siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch pob bricsen neu, sy’n frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws yr wyneb gwastad;

(d)sy’n pwyso 125 i 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

51.  Brics glo Homefire, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 70% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tuag 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), cols (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)nad yw eu cynnwys o ddeunydd anweddol, fel brics glo gorffenedig, yn llai na 9% nac yn fwy na 15% o’r cyfanswm pwysau sych;

(d)sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio;

(e)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(f)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

52.  Homefire Fire Logs, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 280 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder, gydag un rhigol ar hyd pob un o’u pedwar wyneb sydd â’u hyd yn 280 milimetr;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

53.  Homefire Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 172 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 0.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

54.  Homefire Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 215 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

55.  Homefire Ovals, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 57% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 17% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 13% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 135 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

56.  Homefire Ovals (R), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 50 i 75% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tuag 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

57.  Homefire Ovals (R) a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 50 i 75% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 130 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

58.  Homefire Ovals (R) a weithgynhyrchir gan CPL Fuels Ireland, Foynes Briquetting Works, Foynes Port, Foynes, Co. Limerick, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 50 i 75% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 45% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 5 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 130 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

59.  Brics glo Homeflame a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Morgannwg Ganol, De Cymru—

(a)a gyfansoddir o lo meddal a golosg petrolewm (y ddau hyd at tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau) a llwch glo caled a rhwymwr sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd sydd tua 68 o filimetrau o hyd, 63 o filimetrau o led a 38 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 110g y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.9% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

60.  Hot Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—

(a)a gyfansoddir o falurion glo caled (sef tua 73% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 18% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, ac wedyn eu trin â gwres o tua 250 i 280ºC;

(c)sy’n frics glo, ar siâp gobennydd sydd bron yn grwn, gyda diamedr o 40 o filimetrau a thrwch o tua 21 o filimetrau yng nghanol y fricsen;

(d)sy’n pwyso 23 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

61.  Hot Rocks, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—

(a)a gyfansoddir o falurion glo caled (sef tua 73% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 18% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, ac wedyn eu trin â gwres o tua 250 i 280ºC;

(c)sy’n frics glo, ar siâp gobennydd sydd bron yn grwn, gyda diamedr o 40 o filimetrau a thrwch o tua 21 o filimetrau yng nghanol y fricsen;

(d)sy’n pwyso 23 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

62.  HouseFuel Smokeless Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

63.  HouseFuel Smokeless Ovals, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal a golosg petrolewm (y ddau hyd at tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau) a llwch glo caled gyda rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd gyda’u dimensiynau mwyaf tua 68 o filimetrau, 63 o filimetrau a 38 o filimetrau;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.9% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

64.  Island Lump ac Island Nuts, a weithgynhyrchir gan Unocal Refinery, California, Unol Daleithiau America—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm;

(b)a weithgynhyrchwyd o’r golosg petrolewm drwy broses sy’n cynnwys trin â gwres a chwistrellu stêm;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd (Island Lump) neu 30 gram ar gyfartaledd (Island Nuts); ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

65.  Brics glo Jewel, a weithgynhyrchir gan Eldon Colliery Limited yn Newfield Works, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 30 i 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm Long Beach (sef tua 50 i 70% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o garbohydrad (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 150°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 33 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

66.  La Hacienda Easy Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

67.  La Hacienda Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 172 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 0.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

68.  La Hacienda Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 237 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

69.  Glo cnapiau Long Beach Lump (a elwir hefyd yn lo cnapiau LBL), a weithgynhyrchir gan Aimcor Carbon Corporation yn Long Beach, California, Unol Daleithiau America neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals LLC, 330 Golden Shore, Suite 210, Long Beach, California 90802, Unol Daleithiau America—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 85 i 100% o’r cyfanswm pwysau), calchfaen (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a phyg tar glo (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys trin â gwres a chwistrellu stêm;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

70.  Brics glo Maxibrite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp clustog wedi eu marcio â’r llythyren “M”;

(d)sy’n pwyso 35 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

71.  Mr Charcoal: Grade A Restaurant Grill Charcoal a weithgynhyrchir gan Grupo Paben SA, Avda. Madame Lynch No 2833 c/ Punta Brava, Barrio Salvador del Mundo, Asunción, Paraguay—

(a)a gyfansoddir o bren Aspidosperma Quebracho Blanco a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tua 450 i 600°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio, rhwng 30 o filimetrau a 150 o filimetrau o hyd; a

(d)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

72.  Brics glo Multiheat, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) glo meddal (sef tua 0 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl/asid neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sydd naill ai’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, neu’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d)sy’n pwyso 55 neu 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

73.  Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan ECL Mineral Processing Limited yn Newfield Works, Newfield, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 37 i 38% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio gwasg rholer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac yn mesur 70 o filimetrau o hyd, 62 o filimetrau o led a 42 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

74.  Brics glo Newburn, a weithgynhyrchir gan M&G Solid Fuels LLP, Wilton International, Wilton, Middlesbrough, TS90 8WS—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 56 i 57% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 37 to 38% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr powdr sych (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o galedu oer gan ddefnyddio gwasg rholer;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac yn mesur 70 o filimetrau x 62 o filimetrau x 42 o filimetrau;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

75.  Brics glo Newflame, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 78 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 2% o’r cyfanswm pwysau.

76.  Brics glo Newflame Plus, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited, Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o lo meddal (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 15% o’r cyfanswm pwysau), llwch glo caled (sef tua 70 i 80% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, sydd tua 68 o filimetrau o hyd, 63 o filimetrau o led a 38 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso 110 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 1.9% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

77.  Brics glo Newheat, a weithgynhyrchir gan Oxbow Coal BV yn Newfield Works, Bishop Auckland, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 65% o’r cyfanswm pwysau), glo caled (sef tua 30 i 35% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri, caledwr a sefydlogydd tymheredd isel (sef gweddill y pwysau);

(b)a gynhyrchwyd ar y tymheredd amgylchynol drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sy’n frics glo hirgrwn, heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso tua 100 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.9% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

78.  Optima Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

79.  Pagan Fuel’s Restaurant Charcoal, a weithgynhyrchir gan Pabensa S.A. Aviadores del Chaco, Asuncion, Paraguay—

(a)a gyfansoddir o’r coedydd caled Prosopsis nigra, Cordia alliodora, Centrolobeum, Prosopsis kuntzei, Caesalpinia, Goncalo alves a Tabebuia a byrolyswyd;

(b)a weithgynhyrchwyd gan ddefnyddio proses o byrolysis mewn odyn ar tuag 800°C;

(c)sy’n ddarnau o siarcol heb eu marcio rhwng 20 a 120 o filimetrau; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

80.  Brics glo Phurnacite, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

81.  Brics glo Phurnacite a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 40 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

82.  Brics glo Phurnacite a weithgynhyrchir gan CPL Fuels Ireland, Foynes Briquetting Works, Foynes Port, Foynes, Co. Limerick, Iwerddon–

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp ofoidau â dwy linell gyfochrog yn rhedeg yn hydredol o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 40 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

83.  Brics glo ProQ COCOCHA Coconut Shell a weithgynhyrchir gan Siantan Suryatama PT, Golden Boulevard W2/19, BSD City, Tangerang, Indonesia—

(a)a gyfansoddir o bowdr cragen cneuen goco wedi ei garboneiddio (sef tua 95% o’r cyfanswm pwysau), starts naturiol o blanhigion (sef tua 4.95% o’r cyfanswm pwysau), asid bensoaidd (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd drwy broses sy’n cynnwys carboneiddio cragen cneuen goco grai hyd at 600 gradd Celsius gan gynhyrchu’r powdr o gragen cneuen goco a chaiff ei falu, ei hidlo, ei gymysgu â’r cyfansoddion eraill, ei allwthio, ei dorri yna ei sychu hyd at 110 gradd Celsius;

(c)sy’n frics glo ciwboid petryal heb eu marcio o faint 50 x 40 x 30 mm neu 40 x 30 x 25 mm;

(d)sy’n pwyso rhwng 54 a 56 gram y fricsen neu rhwng 26 a 28 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 1% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

84.  Pyrobloc Fire Logs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV ym Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau), a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 265 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

85.  Red Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited, Lāčplēša street 48, Rīga, LV-1011, Latfia—

(a)a gyfansoddir o falurion glo caled (sef tua 73% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 18% o’r cyfanswm pwysau), a rhwymwr triagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, ac wedyn eu trin â gwres o tua 250 i 280°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd sydd bron yn grwn, gyda diamedr o 40 o filimetrau a thrwch o tua 21 o filimetrau yng nghanol y fricsen;

(d)sy’n pwyso 23 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 0.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

86.  Safelight Firelogs, a weithgynhyrchir gan Advanced Natural Fuels Limited, yn Pocklington, Dwyrain Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o sglodion pren (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o gwyr palmwydd (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys gwasgu’r cynhwysion, ar ôl eu cymysgu, ar dymheredd o tua 40°C i 50°C;

(c)sy’n foncyffion tân petryal caled â dwy agen ddofn sy’n gorgyffwrdd ar yr wyneb uchaf, un agen ddi-dor ar yr wyneb isaf;

(d)sy’n pwyso 1.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

87.  Smokeless Coal No5 a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 17% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl/asid neu rwymwr organig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sydd naill ai’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu’n frics glo ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf llinell hydredol sengl ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn;

(d)sy’n pwyso 55 neu 80 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

88.  Brics glo Sovereign, a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, De Swydd Efrog—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 75% o’r cyfanswm pwysau), glo a golosg adweithiol (sef tua 21% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys allwthio;

(c)sy’n frics glo chweonglog heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 130 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

89.  Brics glo Stoveheat Premium, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 65 i 85% o gyfanswm eu pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp clustog, gyda hicyn ar ffurf llinell sy’n ymestyn o amgylch y fricsen;

(d)sy’n pwyso 30 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

90.  Supabrite Coke Doubles, a weithgynhyrchir gan H. J. Banks and Company Limited yn Inkerman Road Depot, Tow Law, Swydd Durham—

(a)a gyfansoddir o olosg metelegol (sef tua 40 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys eu blendio a’u sgrinio;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)nad yw mwy nag 1.95% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

91.  Brics glo Supacite, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 240°C;

(c)sy’n ofoidau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 45 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

92.  Superburn Xtra a weithgynhyrchir gan Stafford Fuels Limited, Raheen, New Ross, Swydd Wexford, Y34 H028, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gymysgedd o lo caled (sef tua 20 i 60% o’r cyfanswm pwysau), Gronynnau Golosg Petrolewm (sef tuag 20 i 60% o’r cyfanswm pwysau), Gronynnau Glo Meddal (sef tua 15% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri (hyd at tua 6% o gyfanswm pwysau sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu oer;

(c)sy’n ofoidau heb eu marcio o faint bras o 85 mm x 60 mm x 40 mm;

(d)sy’n pwyso 130 gram fesul bric glo ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

93.  Brics glo Supertherm, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o gymysgedd (mewn cyfrannedd o 19:1) o lo caled a glo canolig ei anweddolrwydd (sef tua 93% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n ofoidau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 160 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

94.  Brics glo Supertherm II, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 36 i 51% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 40 i 55% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n ofoidau wedi eu marcio ag un llinell ledredol ar draws un wyneb i bob bricsen neu’n ofoidau heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 140 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau sych yn sylffwr.

95.  Supertherm 30 a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln–

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu, frics glo chweonglog heb eu marcio neu, sy’n ofoidau ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch pob bricsen neu, frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws yr wyneb gwastad;

(d)sy’n pwyso 125 i 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

96.  Supertherm 30 a weithgynhyrchir gan CPL Fuels Ireland, Foynes Briquetting Works, Foynes Port, Foynes, Co. Limerick, Iwerddon–

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu, frics glo chweonglog heb eu marcio neu, sy’n ofoidau ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch pob bricsen neu, frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws yr wyneb gwastad;

(d)sy’n pwyso 125 i 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

97.  Brics glo Taybrite (a elwir fel arall yn frics glo Surefire), a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 60 i 80% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid ffosfforig (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 300°C;

(c)sy’n frics glo ar siâp gobennydd sydd naill ai wedi eu marcio â hicyn ar ffurf un llinell hydredol ar bob wyneb, 10 milimetr i ffwrdd o’r llinell gyfatebol gyferbyn, neu sydd heb eu marcio;

(d)sy’n pwyso 80 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

98.  Therma Briquettes, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—

(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;

(c)sy’n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn gyda llinell drwy’r canol;

(d)sy’n pwyso 26 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

99.  Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—

(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 90% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;

(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;

(d)sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

100.  Tiger Tim Firelogs, a weithgynhyrchir gan De Lange BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 50% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 280 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder a chanddynt un rhigol yn rhedeg ar hyd pob un o’r pedwar wyneb sy’n 280 milimetr o hyd;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

101.  Unicite, a weithgynhyrchir gan DJ Davies Fuels Limited yn Blaenau Fuel Depot, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, neu a weithgynhyrchir gan AI Simson yn Cabby Latch, Logie ger Kirriemuir, Angus—

(a)sy’n gymysgedd o’r gwahanol danwyddau a ganlyn—

(i)cnapiau mawr o lo caled, a

(ii)brics glo Union o’r disgrifiad yn is-baragraff (d) a weithgynhyrchir gan RWE Power AG yn Cologne, yr Almaen (sef dim mwy na thua 40 i 42% o gyfanswm pwysau Unicite);

(b)nad yw ei gynnwys o sylffwr yn fwy na 0.5% o’r cyfanswm pwysau;

(c)y datgenir nad yw’n danwydd awdurdodedig ond i’r graddau nad yw cyfran y brics glo Union a losgir drwy ddefnyddio Unicite yn uwch na’r ystod o ganrannau a bennir yn is-baragraff (a)(ii); a

(d)i’r graddau y’i cyfansoddir o’r brics glo Union y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a)(ii), a gyfansoddir o lignit cywasgedig, gyda phob bricsen yn mesur tua 75 o filimetrau o led, 60 o filimetrau o uchder a 55 o filimetrau o drwch.

102.  Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 210 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso rhwng 1.085 ac 1.115 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw eu cynnwys o sylffwr yn fwy na 0.2% o’r cyfanswm pwysau.

103.  Zip 100% Natural Firelogs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 245 milimetr o hyd, 75 milimetr o led a 68 milimetr o uchder;

(d)sy’n pwyso rhwng 0.985 ac 1.015 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

104.  ZIP 100% Natural Stove Logs, a weithgynhyrchir gan Standard Brands (Trading) Ireland Limited yn Castlebellingham, County Louth, Iwerddon—

(a)a gyfansoddir o gwyrau triglyserid hydrogenaidd o darddiad naturiol (sef tua 53 i 57% o’r cyfanswm pwysau), ffibr helyg (sef tua 23 i 27% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr naturiol seiliedig ar driagl (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 165 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 75 o filimetrau o uchder;

(d)sy’n pwyso rhwng 0.835 a 0.865 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

105.  ZIP Cracklelog Firelogs, ZIP Crackle-log Firelogs a ZIP Crackling Log Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55% o’r cyfanswm pwysau), blawd llif pren caled (sef tua 42% o’r cyfanswm pwysau) a hadau clecian (sef tua 3.2% o’r cyfanswm pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd gyda diamedr o 80 o filimetrau, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

106.  ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 265 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

107.  ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;

(c)sydd tua 235 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;

(d)sy’n pwyso 1.1 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.

108.  ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk BV, Apolloweg 4, Harbour No: M189A, 4782 SB Moerdijk, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);