106. ZIP Firelogs, a weithgynhyrchir gan Allspan BV, Macroweg 4, 5804 CL Venray, yr Iseldiroedd—
(a)a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 58 i 59% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o drin â gwres ac allwthio;
(c)sydd tua 265 o filimetrau o hyd a 80 o filimetrau o ddyfnder, gyda rhigolau ar hyd yr wynebau;
(d)sy’n pwyso 1.3 cilogram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.