YR ATODLENTanwyddau Awdurdodedig

43

Fireglow Firelog a weithgynhyrchir gan Woodflame Moerdijk BV, Apolloweg 4, 4782 SB, Moerdijk, Yr Iseldiroedd—

a

a gyfansoddir o gwyr hydrin (sef tua 55 i 60% o’r cyfanswm pwysau) a blawd llif pren caled (sef tua 40 i 45% o’r cyfanswm pwysau);

b

a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses drin â gwres ac allwthio;

c

sy’n foncyffion tân sydd tua 180 o filimetrau o hyd, 80 o filimetrau o led a 70 o filimetrau o uchder, gydag un rhigol yn rhedeg ar hyd tri o’r pedwar wyneb;

d

sy’n pwyso 0.80 cilogram fesul boncyff tân ar gyfartaledd; ac

e

nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.