YR ATODLENTanwyddau Awdurdodedig
6
Big K Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—
a
a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);
b
a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;
c
sydd tua 193 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;
d
sy’n pwyso 0.9 cilogram ar gyfartaledd; ac
e
nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.