Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019

67.  La Hacienda Fire Log, a weithgynhyrchir gan Top Flames Europe BV, Rustenburgerweg 3, 1646 WJ Ursem Gem, Alkmaar, yr Iseldiroedd—

(a)a gyfansoddir o 29% o gwyr paraffin, 20% o gwyr sy’n tarddu o blanhigion, 17% o belenni coed â diamedr o 6mm a 34% o flawd llif (yn ôl pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses o gymysgu ac allwthio;

(c)sydd tua 172 o filimetrau o hyd, 75 o filimetrau o ddyfnder a 75 o filimetrau o uchder, gyda 6 rhigol;

(d)sy’n pwyso 0.8 cilogram ar gyfartaledd; ac

(e)nad yw mwy na 0.1% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.