xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
96. Supertherm 30 a weithgynhyrchir gan CPL Fuels Ireland, Foynes Briquetting Works, Foynes Port, Foynes, Co. Limerick, Iwerddon–
(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 40 i 65% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 0 i 20% o’r cyfanswm pwysau), biomas (sef tua 5 i 20% o’r cyfanswm pwysau), cols biomas (sef tua 0 i 10% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig neu rwymwr o driagl ac asid (sef 20% o’r cyfanswm pwysau ar y mwyaf);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o hyd at 300°C;
(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd neu, frics glo chweonglog heb eu marcio neu, sy’n ofoidau ar siâp gobennydd wedi eu marcio â hicyn ar ffurf dwy linell gyfochrog sy’n ymestyn yn lledredol o amgylch pob bricsen neu, frics glo chweonglog gydag un streipen sengl ar un ochr ar draws yr wyneb gwastad;
(d)sy’n pwyso 125 i 135 gram y fricsen ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.