Cyfathrebu trwyddedau a hysbysiadau3.

(1)

Mae trwydded i gael ei rhoi, ac mae hysbysiad ynglŷn â thrwydded i gael ei roi, drwy eu cyfathrebu i dderbynnydd priodol (“P”).

(2)

Rhaid i drwydded gael ei chyfathrebu—

(a)

drwy ei throsglwyddo’n bersonol i P;

(b)

drwy ei phostio i P yng nghyfeiriad neu le busnes P;

(c)

drwy ei gadael yng nghyfeiriad neu le busnes P, neu yn nwylo person yno; neu

(d)

yn ddarostyngedig i baragraff (6), drwy ei thrawsyrru i P drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig i gyfeiriad y mae P wedi ei bennu yn unol ag is-baragraff (b) o’r paragraff hwnnw.

(3)

Rhaid i hysbysiad gael ei weithredu drwy ei gyfathrebu i P—

(a)

mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir ym mharagraff (2);

(b)

drwy ei gyhoeddi ar wefan, y nodir ei chyfeiriad ar y drwydded y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi; neu

(c)

pan fo’r hysbysiad yn hysbysiad cyffredinol, drwy ei gyhoeddi mewn papur newydd.

(4)

Rhaid i hysbysiad cyffredinol—

(a)

darparu ei fod yn gymwys i bob trwydded pysgota môr; neu

(b)

pennu’r trwyddedau pysgota môr hynny y mae’n ymwneud â hwy drwy gyfeirio at rywogaeth, ardal, dull, neu fath o drwydded, neu at unrhyw gyfuniad o’r materion hyn.

(5)

Rhaid i hysbysiad heblaw hysbysiad cyffredinol bennu’r trwyddedau y mae’n ymwneud â hwy drwy gyfeirio at enw, llythrennau a rhif porthladd pob llestr y rhoddwyd trwydded o’r fath iddo.

(6)

Dim ond os bodlonir yr amodau a ganlyn y caniateir cyfathrebu trwydded neu hysbysiad drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig fel y’i disgrifir ym mharagraff (2)(d)—

(a)

bod defnyddio cyfathrebiad electronig yn golygu bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y drwydded neu’r hysbysiad ar gael i P ym mhob agwedd berthnasol fel y byddai’n ymddangos mewn trwydded neu hysbysiad a roddid ar ffurf brintiedig; a

(b)

bod P wedi pennu cyfeiriad er mwyn derbyn cyfathrebiadau o’r fath.

(7)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “derbynnydd priodol” yw—

(a)

mewn perthynas â thrwydded neu hysbysiad sy’n ymwneud â chwch pysgota Cymreig—

(i)

perchennog neu siartrwr y cwch pysgota, neu

(ii)

enwebai i’r perchennog neu’r siartrwr hwnnw; a

(b)

mewn perthynas â thrwydded neu hysbysiad sy’n ymwneud ag unrhyw gwch pysgota arall, perchennog neu siartrwr y cwch pysgota.

(8)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad cyffredinol” yw hysbysiad sy’n ymwneud—

(a)

â phob trwydded pysgota môr; neu

(b)

â phob trwydded pysgota môr sy’n awdurdodi pysgota—

(i)

am un neu ragor o ddisgrifiadau penodedig o bysgod môr,

(ii)

mewn un neu ragor o ardaloedd penodedig,

(iii)

drwy ddull neu ddulliau penodedig,

(iv)

yn ôl y math o drwydded, neu

(v)

drwy gyfeirio at gyfuniad o ddau neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (i) i (iv).

(9)

Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwyddedau pysgota môr” yw trwyddedau o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967.