xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
28.—(1) Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.
(2) Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw’r darpariaethau ynglŷn â seibiannau gorffwys a bennir ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—
(a)pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni;
(b)pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu;
(c)pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy;
(d)pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—
(i)gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr;
(ii)gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy; neu
(iii)gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd; neu
(e)pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1) a (2) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998(1).
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys—
(a)rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le; a
(b)mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.