xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
43.—(1) Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018(1) (“Gorchymyn 2018”) wedi ei ddirymu.
(2) Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn 2018 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn parhau i fod wedi ei gyflogi ar y Radd honno neu fel prentis ac mae, o’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodir yn y Gorchymyn hwn.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017(2), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016(3), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.