- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
12 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Mawrth 2019
Yn dod i rym
29 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 87, 92, 94A a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1).
1.—(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
2. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 7(1) (gofyniad i benodi rheolwr awdurdod lleol), yn lle “un oʼi swyddogion” rhodder “swyddog”;
(b)yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(5) (gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau), yn lle “baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i)” rhodder “baragraff (1)(a), (b), (c) ac (h)”;
(c)yn nhestun Saesneg rheoliad 11 (dyletswydd gonestrwydd)—
(i)yn lle paragraff (d) rhodder—
“(d)in the case of a child who is placed with an area authority, that area authority.”;
(ii)hepgorer paragraff (e);
(d)yn rheoliad 26(1) (mynediad i wasanaethau iechyd), yn lle “iechyd a datblygiad” rhodder “iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol”;
(e)yn rheoliad 29(2)(e) (addasrwydd staff), yn lle “1 Medi 2022” rhodder “1 Ebrill 2022”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2019
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1339 (Cy. 261)) (“Rheoliadau 2018”).
Mae rheoliad 2(a) yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2018 er mwyn caniatáu i ddarparwr awdurdod lleol benodi swyddog o awdurdod lleol arall i fod yn gyfrifol am reoliʼr gwasanaeth maethu.
Mae rheoliad 2(b) yn gwneud diwygiad i destun Cymraeg rheoliad 10 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Saesneg.
Mae rheoliad 2(c) yn gwneud diwygiad i destun Saesneg rheoliad 11 o Reoliadau 2018, i sicrhau cyfwerthedd âʼr testun Cymraeg.
Mae rheoliad 2(d) yn diwygio rheoliad 26 o Reoliadau 2018 i bennu bod y cyfeiriad yn y rheoliad hwnnw at iechyd a datblygiad yn cael ei newid i iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol.
Mae rheoliad 2(e) yn diwygio rheoliad 29 o Reoliadau 2018 fel mai 1 Ebrill 2022 sy’n cael ei roi fel y dyddiad na chaiff darparwyr awdurdodau lleol gyflogi person i reoliʼr gwasanaeth maethu awdurdod lleol ohono oni bai bod y person hwnnw wedi ei gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn.
2014 dccc 4; gweler adran 197(1) am y diffiniad o “rheoliadau” a “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: