Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
13 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mawrth 2019
Yn dod i rym
8 Ebrill 2019
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru(1) drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(2).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gwent yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o’r Ddeddf honno. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.