- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
20.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol—
(a)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu cadw’n gaeth yn y fan lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid; neu
(b)i anifail neu lwyth o anifeiliaid gael eu symud i fan arall, a’u cadw’n gaeth yno,
er mwyn i arolygiad gael ei gynnal.
(2) Rhaid i arolygiad o dan baragraff (1) gael ei gynnal er mwyn darganfod—
(a)a oes unrhyw anifail yn cynnwys unrhyw sylwedd diawdurdod neu weddillion unrhyw sylwedd arall y mae gan y swyddog awdurdodedig amheuaeth resymol y gallai olygu bod unrhyw gynnyrch anifeiliaid sy’n deillio o’r anifail yn cynnwys sylwedd diawdurdod neu sylwedd Tabl 1 yn ôl crynodiad sy’n uwch na’r terfyn gweddillion uchaf; neu
(b)a yw unrhyw gyfnod cadw’n ôl wedi dod i ben.
(3) Pan nad yw ond yn ofynnol cadw’n gaeth anifail neu lwyth o anifeiliaid, rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid.
(4) Pan fo’n ofynnol symud anifail neu lwyth o anifeiliaid a’u cadw’n gaeth mewn man arall rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i berchennog y fangre lle y lleolir yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid oni bai mai person arall yw perchennog yr anifail neu’r llwyth o anifeiliaid, pryd y mae’n rhaid i’r swyddog awdurdodedig gyflwyno’r hysbysiad i ba un bynnag ohonynt y mae’r swyddog yn ystyried sy’n briodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: