Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

Dewis mynd ar ôl sancsiynau sifil yn lle cosbau troseddol

35.—(1Caiff awdurdod gorfodi osod sancsiwn sifil, neu gyfuniad o sancsiynau sifil, o dan Ran 6 yn erbyn person (“troseddwr”) os yw’r awdurdod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y troseddwr yn euog o drosedd a ddisgrifir yn Rhan 4.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir dechrau neu barhau achos troseddol yn erbyn troseddwr os bydd awdurdod gorfodi, mewn cysylltiad â’r drosedd—

(a)yn dewis cymhwyso sancsiynau sifil o dan baragraff (1); a

(b)yn cyflwyno i’r troseddwr—

(i)hysbysiad cydymffurfio;

(ii)hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio; neu

(iii)hysbysiad cosb ariannol benodedig.

(3Os bydd y troseddwr yn methu â chydymffurfio â’r sancsiynau sifil a gyflwynir o dan baragraff (2)(b), caiff yr awdurdod gorfodi ddwyn achos troseddol.