- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
42.—(1) Caiff awdurdod gorfodi fynd ati, unrhyw bryd, mewn ysgrifen, i dynnu hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod o dan y Rhan hon yn ôl.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i hysbysiad a gyflwynir i droseddwr o dan y Rhan hon ond sydd wedyn yn cael ei dynnu’n ôl gan yr awdurdod gorfodi cyn i’r troseddwr ffeilio apêl yn erbyn y penderfyniad a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad arall i’r troseddwr ynglŷn â’r methiant a ddisgrifir yn yr hysbysiad gwreiddiol.
(4) Caniateir i hysbysiad gael ei dynnu’n ôl gan awdurdod gorfodi, os bydd yr awdurdod gorfodi’n penderfynu na chyflawnwyd y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei ddyroddi i’r person a enwyd fel y person y cafodd ei ddyroddi iddo.
(5) Pan fo hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i swm gael ei dalu (sef swm sydd wedi ei bennu yn yr hysbysiad) wedi ei dynnu’n ôl—
(a)nid oes swm yn daladwy yn unol â’r hysbysiad hwnnw; a
(b)rhaid i unrhyw swm a dalwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw gael ei ad-dalu i’r person a’i talodd.
(6) Yn y rheoliad hwn mae i “hysbysiad” yr ystyr a roddir yn rheoliad 41(3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: