Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019

Ffurf a chynnwys dogfennau adnabod

9.—(1Mae corff dyroddi—

(a)yn gorfod sicrhau bod unrhyw stoc o ddogfennau adnabod gwag a argraffwyd ymlaen llaw (“stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw”) y mae’n ei dal neu’n ei chadw;

(b)yn gorfod sicrhau bod unrhyw ddogfen adnabod y mae’n ei dyroddi o’r stoc wag hon a argraffwyd ymlaen llaw; ac

(c)yn cael sicrhau bod dogfen adnabod y mae’n ei dyroddi heblaw o stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw,

yn cydymffurfio â pharagraff (2).

(2At ddibenion paragraff (1), rhaid i’r ddogfen adnabod neu’r stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw gynnwys o leiaf rif cyfresol a argraffwyd ar bob un o’r tudalennau sy’n ffurfio adrannau I i III o’r ddogfen adnabod (fel y nodir yn Atodiad I i Reoliad yr UE).

(3Rhaid i gorff dyroddi sicrhau bod yr holl ddogfennau adnabod a’r holl stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw yn cael eu rheoli mewn modd diogel ar ei fangreoedd.

(4Os bydd dogfen adnabod neu unrhyw stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn, rhaid i’r corff dyroddi o dan sylw—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted â phosibl eu bod wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn; a

(b)gyda’r hysbysiad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), hysbysu Gweinidogion Cymru—

(i)am yr amgylchiadau ynglŷn â’r ffaith eu bod wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn; a

(ii)am rifau cyfresol y ddogfen adnabod neu’r stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw ac sydd o dan sylw.

(5At ddibenion Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir gydag Erthygl 10(3), ac yn ddarostyngedig i’r Erthygl honno, rhaid i’r corff dyroddi o dan sylw sicrhau bod adran IV (manylion perchnogaeth) dogfen adnabod wedi ei chwblhau cyn i’r ddogfen adnabod gael ei dyroddi o dan Erthygl 9.

(6Caiff dogfen adnabod neu unrhyw ran ohoni fod mewn iaith ychwanegol.