xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Gwnaed
19 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Mawrth 2019
Yn dod i rym
28 Mawrth 2019
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.
2. Yn rheoliad 8 o Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019(3), yn lle “person cyfrifol” rhodder “perchennog”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2019
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 (O.S. 2019/57 (Cy. 20)) (“y Rheoliadau Ceffylau”) yn cydategu Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 yn gosod rheolau yn unol â Chyfarwyddebau’r Cyngor 90/427/EEC a 2009/156/EC o ran dulliau adnabod equidae (OJ Rhif L 59, 3.3.2015, t.1) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi’r Rheoliad hwnnw, yng Nghymru. Mae rheoliad 2 yn cywiro’r Rheoliadau Ceffylau gan ddiwygio un cyfeiriad at “person cyfrifol” i “perchennog”.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mae wedi ei diddymu yn rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).